Synnwyr Bwyd Cymru yn cyflwyno Ffres! – Gŵyl Lysiau Cymru

Cynhelir Ffres! Gŵyl Lysiau Cymru rhwng Mehefin 5ed a’r 18fed er mwyn dathlu tyfu, bwyta, gweithredu a mwynhau llysiau yng Nghymru.

Wedi’i chydlynu gan Synnwyr Bwyd Cymru – sefydliad sy’n gweithio i ddylanwadu ac effeithio ar sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a’i fwyta yng Nghymru – bydd yr ŵyl yn tynnu sylw at y gwaith anhygoel sy’n digwydd ar draws gerddi, ffermydd, cymunedau, sefydliadau a busnesau ledled Cymru.

Bydd Ffres! yn dod â phrosiectau a phartneriaid o bob rhan o Gymru ynghyd – o brosiectau tyfu cymunedol i fusnesau garddwriaeth bwytadwy; ysgrifenwyr bwyd i berchnogion tai bwyta; a dylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol i gyfanwerthwyr – gan roi cyfle iddynt arddangos a thrafod y gwaith gwych sy’n cael ei wneud i hyrwyddo tyfu a bwyta llysiau.

Bydd yr ŵyl yn cynnwys cyfuniad o ddigwyddiadau ar-lein a chynnwys cyfryngau cymdeithasol a bydd yn cynnig cyfle i’r rhai sy’n cymryd rhan i rannu eu straeon yn ogystal â’u hangerdd am lysiau. Bydd unrhyw un sydd â diddordeb ymuno yn yr hwyl hefyd yn gallu dilyn yr ŵyl ar gyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio #Ffres21.

Bydd ffocws ar, a thrafodaeth ar goginio a mynediad at lysiau; yr angen i dyfu mwy o lysiau; archwilio buddion iechyd bwyta mwy o lysiau; edrych ar sut y gall bwyd a llysiau gynnig ffyrdd i ddod â phobl ynghyd yn ogystal â chysylltu pobl â llysiau – o ble daw ein llysiau; eu treftadaeth, a’r ffordd y mae nhw wedi’u tyfu.

“Gyda 2021 yn Flwyddyn Ryngwladol Ffrwythau a Llysiau’r Cenhedloedd Unedig a gyda COP26 yn digwydd yn Glasgow ym mis Tachwedd, roeddem yn teimlo mai dyma’r amser iawn i drefnu dathliad o lysiau yng Nghymru,” meddai Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru.

“O ran iechyd, mae ein deietau’n arwain at lefelau uchel o ordewdra, diabetes math 2 a chlefydau eraill sy’n gysylltiedig â deiet – ac mae angen i ni i gyd fwyta mwy o lysiau.  Mae Pys Plîs yn edrych ar yr ysgogiadau ar hyd y gadwyn gyflenwi gyfan sydd â’r potensial i gynyddu’r llysiau a fwyteir mewn modd cynaliadwy ac rydym yn cydnabod bod angen i ni weld newidiadau ar draws ein system fwyd er mwyn cefnogi defnyddwyr i wneud dewisiadau iachach.  Yn ddiweddar, fe wnaethon ni hefyd gefnogi pum busnes garddwriaeth bach er mwyn eu helpu i dyfu mwy o lysiau gan eu galluogi i ddarparu mwy o lysiau i gymunedau amrywiol ledled Cymru.

“Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn cyflwyno nifer o raglenni sy’n gysylltiedig â bwyd ar draws Cymru – llawer fel rhan o bartneriaethau’r DU – yn helpu i gynyddu cyfranogiad, ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad â pholisïau a gweithgareddau sy’n gysylltiedig â bwyd. Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn dilyn dull systemau o ymdrin â bwyd a ffermio, gan feithrin perthnasoedd gwaith cryf â sefydliadau cyhoeddus, preifat a chymdeithas sifil sy’n gweithredu yn y gofod bwyd yng Nghymru, a dyma pam rwy’n hynod falch ein bod ni wrthi’n curadu Ffres! Mae’n gyfle gwych i arddangos gwaith unigolion, grwpiau, busnesau a sefydliadau ymroddedig a brwdfrydig – pob un ohonynt yn gweithio’n ddiwyd i hyrwyddo llysiau, gan ddod â budd, nid yn unig i iechyd pobl ond i’r amgylchedd hefyd.”

Bydd gŵyl Ffres! yn dod at ei therfyn gyda Chynhadledd Lysiau Pys Plîs Cymru, digwyddiad a fydd yn rhan o gyfres ledled y DU a fydd yn archwilio rôl llysiau fel rhan o’r newid tuag at ddeietau iach a chynaliadwy. Bydd y gyfres yn arddangos enghreifftiau o arfer gorau; yn ystyried ffyrdd y gall gwneuthurwyr polisi gefnogi’r trawsnewid, ac yn dathlu pob peth yn ymwneud â llysiau.

Bydd Cynhadledd Lysiau Pys Plîs Cymru yn cynnwys dau ddigwyddiad – y cyntaf yn canolbwyntio ar bolisi garddwriaeth a buddsoddiad, gyda’r ail yn archwilio’r amgylchedd bwyd.

Mae Ffres! hefyd yn cyd-fynd ag ymgyrch Nerth Llysiau (Veg Power) ac ITV, sef Bwytewch y Llysiau I’w Llethu (Eat Them to Defeat Them) – ymgyrch a gefnogir yng Nghymru gan Synnwyr Bwyd Cymru sy’n ceisio cynyddu faint o lysiau sy’n cael eu bwyta gan blant  – gan ddefnyddio hysbysebu a marchnata i gynyddu’r galw. Eleni, bydd tua 150 o ysgolion yn cymryd rhan yn rhaglen ysgolion Nerth Llysiau yng Nghymru sydd hefyd yn cael ei chynnal ym mis Mehefin.

I ddarganfod mwy am yr ŵyl, ewch i dudalen Ffres! ar Eventbrite neu ewch i wefan Synnwyr Bwyd Cymru.  Gallwch hefyd ddilyn @foodsensewales ar Twitter a Facebook i weld llawer o gynnwys, fideos a lluniau sy’n gysylltiedig â llysiau. Defnyddiwch #Ffres21 i ddilyn yr ŵyl a gynhelir rhwng Mehefin 5ed a’r 18fed.

DIWEDD