Rhaglen Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes yn cefnogi gweithgareddau cymunedol mewn ysgolion yng Nghymru

Yn ddiweddar, mae’r rhaglen Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes wedi dyfarnu grantiau i 66 o ysgolion a lleoliadau cyn-ysgol ledled Cymru, i’w galluogi i gymryd rhan yn Y Cinio Mawr

Rhaglen o weithgareddau cymunedol rheolaidd sy’n cysylltu pobl o bob oed a chefndir trwy dyfu, coginio a rhannu bwyd da yw Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes. Mae’n rhaglen 4-blynedd a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a ddechreuodd ym mis Mehefin 2019. Caiff ei harwain gan elusen Bwyd am Oes Cymdeithas y Pridd ac yng Nghymru mae’n cael ei darparu gan Synnwyr Bwyd Cymru.

Mae Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes yn cefnogi grwpiau drwy eu hysbrydoli i gymryd rhan a thrwy gynnig amrywiaeth o adnoddau, ryseitiau, hyfforddiant, awgrymiadau ar gyfer cynllunio digwyddiadau, grantiau bach a chyfleoedd cyllido.   Mae’r rownd benodol hon o grantiau yn canolbwyntio ar Y Cinio Mawr – menter Prosiect Cymunedau Eden sy’n dathlu cysylltiadau cymunedol gan annog pobl i ddod i adnabod ei gilydd ychydig yn well.

Eleni, mae’r Cinio Mawr yn ddechrau ar gyfres o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn ystod mis Mehefin, sydd wedi’i ddynodi’n Fis y Gymuned.  Mae’r 66 o brosiectau sy’n cael eu hariannu yng Nghymru gan y rhaglen Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes yn dathlu eu cymuned leol ac mae pob un yn cynnig ffordd o ddod â phobl o bob oed ynghyd – wyneb yn wyneb ac yn rhithwir.

Bydd y prosiectau llwyddiannus i gyd yn cael £150 gan alluogi’r ysgolion i gynnal digwyddiad bwyd da Dewch at Eich Gilydd yn eu cymuned. Gellir defnyddio’r arian ar gyfer costau gweithgaredd neu ar gyfer cyfarpar ac anogwyd ceisiadau gan brosiectau a fyddai’n dod â phobl o wahanol gefndiroedd a/neu oedrannau ynghyd i gryfhau a chysylltu cymunedau drwy dyfu bwyd, coginio a / neu rannu bwyd.

“Mae cael y cyfle i ddod ynghyd a chymdeithasu wrth rannu bwyd iach a ffres, neu drwy dyfu neu goginio bwyd gyda’ch gilydd, yn gallu newid bywydau pobl o ddydd i ddydd er gwell, ” meddai Louise Shute, Rheolwr Rhaglen Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes yng Nghymru.

“Rydym yn falch iawn o gefnogi cymaint o ysgolion ledled Cymru, a’u galluogi i gysylltu â’r gymuned drwy fwyd yr haf hwn. Ar ôl blwyddyn anodd, mae bwyd iach a threulio amser gydag eraill mewn ffordd ddiogel wedi dod yn bwysicach fyth,” ychwanega Louise.

“Mae’r ysgolion yn falch iawn o allu dod â phobl ynghyd yn eu cymuned ac mae’r plant yn edrych ymlaen at baratoi bwyd blasus, gyda llawer ohonynt yn defnyddio ffrwythau a llysiau sy’n cael eu tyfu ar y safle neu’n lleol.”

Un o’r ysgolion a lwyddodd i gael grant gan raglen Dewch at Eich Gilydd Bwyd Am Oes yw Ysgol y Deri ym Mhenarth, sy’n ysgol arbennig.

Bydd grŵp Arlwyo Ysgol y Deri yn paratoi bocsys picnic i’w rhannu gyda’r gymuned leol gan gynnwys danfon bocsys i breswylwyr mewn canolfan tai gwarchod leol; i weithwyr iechyd yn Ysbyty Llandochau ar gyfer picnic yn yr awyr agored; i Ysbyty Plant Arch Noa ar gyfer picnic yn yr awyr agored ac i Hosbis Plant Tŷ Hafan ar gyfer picnic yn yr awyr agored – oll yn unol â rheolau cadw pellter cymdeithasol.  Mae gweithwyr allweddol sydd wedi cefnogi’r ysgol drwy gydol y pandemig hefyd yn cael eu gwahodd i ardd Ysgol y Deri i gael picnic yn yr awyr agored gan gadw pellter cymdeithasol.

Mae Ysgol Aberdaugleddau yn Sir Benfro hefyd yn cynllunio digwyddiad gyda’r grant a gafodd.  Mae gan yr ysgol grŵp bach o ddisgyblion sy’n arwain grŵp ‘Syrffwyr yn Erbyn Carthion’, gan hyrwyddo materion cynaliadwyedd ac amgylcheddol ar draws eu cymuned.

Bydd y grŵp yn defnyddio ei grant i drefnu cinio i ennyn cefnogaeth a chodi ymwybyddiaeth o’i achos. Bydd yn cynnal picnic Covid-ddiogel yn yr awyr agored gyda’r gobaith o rannu’r hyn y maent wedi’i ddysgu a modelu ymddygiadau mwy cadarnhaol – er enghraifft defnyddio poteli diodydd y gellir eu hailddefnyddio neu gyllyll a ffyrc pren yn lle rhai plastig yn eu bocsys bwyd. Gan gael effaith uniongyrchol a chadarnhaol ar eu cymuned a’u hamgylchedd lleol, mae’r disgyblion yn gweld y cinio hwn fel cyfle i ddangos dewisiadau amgen mwy cynaliadwy yn lle deunydd pacio plastig untro.

Yng Ngresffordd, Wrecsam, bydd Ysgol yr Holl Saint yn dod â’r gymuned leol ynghyd mewn ffordd ddiogel a rheoledig i gymryd rhan mewn sesiwn goginio yn yr awyr agored yn ei Hysgol Goedwig.  Mae’r ysgol yn bwriadu sicrhau bod cynnyrch lleol, cynaliadwy yn cael ei ddefnyddio fel rhan o’r gweithgaredd ac mae’n gobeithio y bydd y digwyddiad o fudd i’w disgyblion yn ogystal â’r rhai yng nghymuned ehangach yr ysgol, gan gynnwys preswylwyr hŷn.

Ac yng Nghwm Rhymni, bydd Ysgol y Lawnt, sy’n ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, yn trefnu picnic ar ddiwedd y tymor i ddathlu’r ffordd y mae aelodau o gymuned yr ysgol wedi cefnogi ei gilydd yn ystod blwyddyn anodd iawn lle y cafwyd bylchau mewn addysg. Bydd y picnic yn benllanw wythnosau lawer o weithgareddau lle bydd disgyblion ym mhob swigen yn cael cyfle i astudio bwyd y wlad o’u dewis. Bydd hyn yn dechrau drwy edrych ar gynhwysion cyfarwydd ac anghyfarwydd – bydd rhai o’r rhain yn cael eu tyfu ar silffoedd ffenestr yr ystafell ddosbarth ac eraill yng ngardd lysiau’r ysgol. Yna gellir creu ryseitiau syml i’w paratoi gan ddefnyddio’r cynhwysion hyn, a fydd yn cael eu rhannu gyda rhieni a’r gymuned ehangach drwy wefan yr ysgol. Ar y diwrnod, bydd y disgyblion yn gallu gweld cyflwyniadau gan y swigod eraill yn ddiogel drwy fyrddau gwyn rhyngweithiol eu dosbarthiadau cyn helpu i baratoi ar gyfer eu picnic.

Gweledigaeth Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes yw byd lle mae’n arferol i bobl o bob oed a chefndir ddod yn agosach at ei gilydd yn eu cymuned, gwneud cysylltiadau newydd a bod yn rhan weithredol o’u system fwyd leol – ac mae’r Cinio Mawr a Mis y Gymuned yn enghraifft wych o’r weledigaeth hon ar waith.

“Rydym yn falch iawn bod ein rownd ddiweddaraf o grantiau yn ein galluogi i helpu i gyflawni 66 o brosiectau ledled Cymru,” meddai Louise Shute.  “Mae’n wych gweld cymunedau ar draws Cymru yn dod ynghyd i fwynhau a dathlu bwyd da.”

DIWEDD