Ymunwch â Maint Cymru ar gyfer lansiad ar-lein o’r Pecyn Cymorth ar Gyfrifoldeb Byd-eang a Busnes Dim Datgoedwigo (DFB) fydd yn cael ei gynnal ar ddydd Mawrth 5 Gorffennaf, rhwng 2 a 3pm.

Cynlluniwyd y Pecyn Cymorth DFB gan Maint Cymru i helpu busnesau i sicrhau nad yw’r cynhyrchion a’r nwyddau maen nhw’n eu prynu neu’n eu cynhyrchu yn achosi datgoedwigo trofannol ac effeithiau cymdeithasol, fel camddefnyddio hawliau Pobl Frodorol dramor.

Mae’n canolbwyntio ar y prif nwyddau sy’n risg i goedwigoedd rydym yn eu prynu, eu defnyddio a’u bwyta yng Nghymru bob dydd, sy’n cynnwys cig eidion wedi’i fewnforio, soi ar gyfer porthiant da byw, olew palmwydd, coffi, cacao, pren, papur a mwydion. Yn syfrdanol, mae’r allyriadau nwyon tŷ gwydr o ddim ond pedwar o’r mewnforion hyn o Gymru yn dod i gyfanswm o 1.5 miliwn tunnell o C02e bob blwyddyn. Mae hyn yn cyfateb i 22% o’r allyriadau nwyon tŷ gwydr o drafnidiaeth yng Nghymru.

Bydd y digwyddiad yn dwyn ynghyd cynrychiolwyr o’r gymuned fusnes, Llywodraeth Cymru a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, i ddangos a thrafod pwysigrwydd coedwigoedd trofannol wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur, y manteision i fusnesau o ddod yn fusnesau dim datgoedwigo, a sut y gall pob un ohonom gyfrannu at Gymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang.

O ystyried y ddeddfwriaeth sydd ar y gweill sy’n cael ei chynnig ar lefel y DU a’r UE, a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau gynnal gwiriadau dyladwy ar eu cadwyni cyflenwi er mwyn sicrhau nad ydynt yn cyfrannu at ddatgoedwigo, mae’n hanfodol bod busnesau Cymru yn ymgysylltu ar y mater hwn.

Cofrestrwch yma