Mwy o wybodaeth:

Cynhadledd annibynnol ar ffermio a bwyd cynaliadwy

Tachwedd 24-26 2021

Wrth i lywodraethau cenedlaethol drafod ein dyfodol yn COP26, mae’n amser hanfodol i bob un ohonom fynd i’r afael â’r her a gwneud ein rhan. Mae trydedd Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru ar 24-26 Tachwedd a’r gobaith yw y bydd pawb sydd am greu gweledigaeth newydd ar gyfer bwyd a ffermio yng Nghymru eisiau ymuno â’r digwyddiad.

Yn ogystal â’r siaradwyr gwadd (Yr Athro Tim Lang, yr Athro Lois Mansfield ac Adam Jones, neu Adam yn yr Ardd) bydd rhaglen lawn o gyflwyniadau a thrafodaethau yn ymwneud â ffermio, maeth, iechyd y cyhoedd a pholisi. Ymhlith yr uchafbwyntiau y bydd trin bwyd fel meddyginiaeth, ymateb i bynciau dadleuol fel unedau dofednod dwys, pam nad yw GM yn wyrdd, a thyfu a marchnata mwy o ffrwythau a chnau yng Nghymru.

Bydd y gynhadledd hefyd yn ymchwilio i botensial y Strategaeth Bwyd Cymunedol newydd ar gyfer Cymru, yn ystyried modelau cydweithredol ar gyfer cadwyni bwyd ac yn gofyn sut y gallai tynnu mwy o bobl ifanc mewn i ffermio. 

Ochr yn ochr â hyn bydd sesiynau rhwydweithio anffurfiol a dadl gyhoeddus ar ddefnydd tir. Profodd cynhadledd y llynedd pa mor rhyngweithiol y gall digwyddiad ar-lein fod a chynhyrchwyd cyfres o recordiadau cafodd eu darparu am ddim, gan gyrraedd llawer mwy o bobl.

Eleni, noddir y gynhadledd gan Bwyd a Diod Cymru, ac mae’r rhaglen yn dangos sut y gall arfer da ar hyd y gadwyn cyflenwi bwyd helpu i greu cymdeithas deg ac iach. Mae ardystiwr tir organig mwyaf y DU, Ffermwyr a Thyfwyr Organig, hefyd yn noddi’r gynhadledd am y trydydd tro. 

Mae tocynnau ar werth nawr ar Eventbrite am £5, £20 neu £35 (ynghyd â ffi archebu). Am wybodaeth bellach gallwch ymweld â’r wefan neu e-bostio gwybodaeth@cgfffc.cymru

Archebwch docynnau