Mae Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd yn dychwelyd o Fedi’r 10fed tan Hydref 18fed gydag amryw o ddigwyddiadau wedi’u trefnu ledled y ddinas.

Dyma drydedd Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd a drefnir gan Bwyd Caerdydd i gefnogi a hyrwyddo’r genhadaeth ledled y ddinas i wneud Caerdydd yn un o Ddinasoedd Bwyd Mwyaf Cynaliadwy y Deyrnas Unedig.

Bydd grwpiau cymunedol, ysgolion, gerddi a busnesau yn cynnal ystod eang o ddigwyddiadau gyda choginio, rhannu a thyfu bwyd yn ganolog iddynt. Bydd nifer o ddigwyddiadau’r hydref hwn yn canolbwyntio ar sut y mae cymunedau’n dod at ei gilydd i helpu pobl i barhau i gael gafael ar fwyd iach a maethlon drwy’r argyfwng costau byw.

Darllenwch fwy am yr ŵyl yma.  Cliciwch yma i weld y rhaglen lawn.  Cofiwch ail-ymweld â’r dudalen o bryd i’w gilydd gan fydd mwy o ddigwyddiadau’n cael eu hychwanegu.

Ewch i'r wefan