Dymuna Gweithwyr y Tir eich gwahodd i drafodaeth am y cyfleoedd ar gyfer garddwriaeth fwytadwy a ffermio cymysg yng Nghymru, y rhwystrau a’r newidiadau polisïau sydd eu hangen o safbwynt ehangu. Mae datblygiadau diweddar, megis grantiau datblygu a Dechrau Busnes Garddwriaeth yn arwyddion cadarnhaol o’r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i ffermio ffrwythau a llysiau yng Nghymru ac fe’i croesewir yn fawr. Fodd bynnag, mae nifer o rwystrau sy’n rhaid mynd i’r afael â hwy os ydym am weld potensial llawn garddwriaeth yng Nghymru. Er bod yr uchelgais a llawer o gynnwys Bil Amaethyddiaeth (Cymru) 2022 a Chynllun Ffermio Cynaliadwy yn cael ei groesawu’n fawr, nid ydynt yn mynd i’r afael â llawer o’r newidiadau sy’n angenrheidiol i dyfu’r sector garddwriaethol agroecolegol.

Ymunwch gyda Gweithwyr y Tir i glywed yn uniongyrchol gan ffermwyr arloesol am y gwaith cadarnhaol a wneir ganddynt yn cynhyrchu bwyd i gymunedau lleol trwy ddulliau ecolegol cynaliadwy; yr heriau a wynebir ganddynt, a’r gefnogaeth sydd ei angen er mwyn sicrhau bod y sector yn ffynnu.

Bydd cinio wedi ei baratoi o gynnyrch lleol yn dilyn y cyflwyniadau a’r drafodaeth yn ogystal â digwyddiad rhwydweithio anffurfiol Bwyd Caerdydd.

Bydd hwn yn fan rhwydweithio anffurfiol agored i wneud cysylltiadau, dysgu am brosiectau a mentrau bwyd a rhannu syniadau.

Trefn y Diwrnod

11.45 Agor lleoliad

12:00 Cyflwyniadau a thrafodaeth

1pm Cinio i ddilyn gan digwyddiad rhwydweithio Bwyd Da Caerdydd

2.30pm Lleoliad yn cau

Cadwch eich lle yma