Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru, 23-25 Tachwedd, yn Llambed

Ydych chi â diddordeb mewn dyfodol bwyd a ffermio yng Nghymru? Os felly, archebwch docyn nawr i’r bedwaredd Gynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru ar 23-25 Tachwedd yn Llambed. Bydd y siaradwyr gwadd Sheila Dillon o Raglen Fwyd BBC Radio 4, Alun Elidyr cyflwynydd Ffermio, a’r awdur Jon Gower yn cyflwyno dydd Mercher a dydd Iau, gyda rhaglen lawn sgyrsiau, gweithdai a thrafodaethau. Bydd dros 30 o sesiynau yn ymdrin â phynciau fel amaethgoedwigaeth, partneriaethau bwyd lleol, Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned, caffael prydau ysgol, proffidioldeb fferm, y system hadau, gwyddoniaeth y pridd a meddylfryd systemau mewn addysg a llywodraeth. Bydd hefyd gweithdai ymarferol a digon o amser i gymdeithasu yn ystod yr egwyliau. Nos Fercher bydd adloniant gydag Owen Shiers ac eraill, a ddydd Gwener bydd teithiau maes.

Archebwch eich tocyn erbyn Dydd Llun 14 Tachwedd.

Manylion yn www.cgfffc.cymru, a dilynwch @wrffc22 ar Drydar.

Ewch i'r wefan