Cynhadledd Bwyd mewn Cymunedau

Cysylltu | Rhannu | Ysbrydoli | Galluogi

Dydd Gwener, 1 Gorffennaf 2022

Lleoliad: Yr Egin, Caerfyrddin

Amser: 9.30am – 4.30pm (Lluniaeth a chofrestru o 9am ymlaen)

Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn cynnal cynhadledd Bwyd mewn Cymunedau – cyfle i drafod dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar le; cryfder cymunedau ac arweinyddiaeth yn y maes bwyd.

Bydd y gynhadledd undydd ddiddorol hon yn gyfle i arweinwyr bwyd o bob rhan o Gymru ddod ynghyd i gysylltu â’i gilydd, i rannu profiadau, ac ysbrydoli newid.  Bydd y gynhadledd yn cynnwys prif areithiau, trafodaethau panel a gweithdai i rannu arfer gorau ac ysbrydoli cydweithredu yn y dyfodol, gan amlygu cyfleoedd newydd i arweinwyr a phartneriaethau bwyd ledled Cymru.

Cynhadledd Bwyd Mewn Cymunedau