Cynghrair Polisi Bwyd Cymru yn galw am “Roi bwyd wrth wraidd Llywodraeth Cymru”
Mae Cynghrair Polisi Bwyd Cymru – cynghrair o sefydliadau a rhanddeiliaid sy’n llunio ac yn hyrwyddo gweledigaeth ar y cyd ar gyfer system fwyd i Gymru – yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i roi bwyd wrth wraidd ei Rhaglen Lywodraethu, gan flaenoriaethu mynediad cyfartal at ddeiet lleol, fforddiadwy, iach, blasus, sy’n gyfeillgar i natur ac i’r hinsawdd.
Er mwyn helpu i ddiogelu a chefnogi pobl Cymru a chyflawni ein cyfrifoldebau byd-eang, mae Cynghrair Polisi Bwyd Cymru yn gofyn i aelodau Llywodraeth nesaf Cymru:
- Datblygu Cynllun Gwydnwch Bwyd cynhwysfawr
- Sicrhau bod pob plentyn yn gadael yr ysgol yn hyddysg am fwyd
- Meithrin Cyfoeth Bwyd Cymunedol
- Creu Cynllun Twf ar gyfer Cynnyrch Garddwriaethol Bwytadwy
Mae’r argymhellion hyn yn seiliedig ar dystiolaeth a ddarparwyd o brofiadau’r Gynghrair o weithio o fewn y system fwyd yng Nghymru; drwy ymgynghori â chynrychiolwyr Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru 2024; a chan ddinasyddion Cymru drwy fewnwelediadau polisi’r Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad.
“Ledled Cymru, mae rhanddeiliaid wedi cydnabod bod angen cymryd camau i unioni cydbwysedd ein system fwyd er budd cymdeithas ac i warchod yr amgylchedd,” meddai Katie Palmer, Pennaeth Synnwyr Bwyd Cymru ac un o sylfaenwyr y Gynghrair.
“Ceir nifer o enghreifftiau o fentrau beiddgar ac uchelgeisiol sy’n cael eu cynnal yng Nghymru ond mae angen i’r Llywodraeth wneud mwy i ddangos arweinyddiaeth ac i ddatgloi potensial”, ychwanegodd Katie.
Mae’r Gynghrair yn credu y dylai cynhyrchu a bwyta bwyd olygu diogelu’r amgylchedd, yng Nghymru yn ogystal â ledled y byd. Mae’n golygu cynnal swyddi a bywoliaethau da gartref, a chyflawni ein cyfrifoldeb byd-eang i gymunedau dramor. Mae hefyd yn golygu dathlu ein treftadaeth a’n diwylliant, gan ddarparu diogelwch cenedlaethol i bawb yng Nghymru.
Rhaid i Gymru gryfhau ei gwydnwch yn wyneb argyfyngau bwyd byd-eang – fel y rhai a welwyd yn ystod COVID-19, argyfyngau’n ymwneud â’r hinsawdd, a’r cynnydd mewn prisiau bwyd – gan sicrhau nad yw ein system fwyd yn cyfrannu at ddatgoedwigo neu’n dibynnu ar fewnforion o wledydd sy’n cael eu heffeithio gan newidiadau i’r hinsawdd am gynnyrch y gellid ei dyfu gartref.
Fel yr eglura Shea Buckland Jones, Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth WWF Cymru: “Mae Cymru’n haeddu system fwyd sy’n cadw pobl yn iach, yn rhoi diwedd ar dlodi bwyd, ac yn rhoi bargen deg i ffermwyr. Rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru gefnogi ffermwyr i adfer natur a mynd i’r afael â newid hinsawdd ar yr un pryd â darparu bwyd iach i’r wlad.”
Ychwanega Shea: “Gall Llywodraeth Cymru sbarduno newid gwirioneddol a gwneud gwahaniaeth aruthrol drwy lunio Cynllun Gwydnwch Bwyd Cenedlaethol sy’n cryfhau bwyd lleol ac yn cysylltu’r hyn a dyfwn â’r hyn a fwytwn. Mae hyn yn golygu tyfu mwy o ffrwythau a llysiau organig mewn ffordd gynaliadwy, gweini prydau bwyd iachach, a sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn prynu bwyd mewn ffordd foesegol. Mae’n golygu rhoi mynediad i gymunedau at dir fel y gallant greu partneriaethau bwyd cryf, cynaliadwy.”
Mae’r system fwyd yng Nghymru yn cwmpasu pob dim a phawb sy’n ymwneud â thyfu, cynhyrchu, gweithgynhyrchu, cyflenwi a bwyta bwyd. Mae’n cynnwys amaethyddiaeth, pysgodfeydd, gweithgynhyrchu bwyd, manwerthu, y gwasanaeth bwyd, bwyta a gwastraff. Mae’n cwmpasu pob agwedd ar bolisi gan gynnwys yr economi, yr amgylchedd, addysg, lles, iechyd, trafnidiaeth, cynllunio a llywodraeth leol.
Gallwch ddarllen y ddogfen lawn yma.
DIWEDD
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sian-Elin Davies, Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn Synnwyr Bwyd Cymru: sian-elin.davies@wales.nhs.uk