Cydnabyddiaeth i Leoedd Bwyd Cynaliadwy llwyddiannus Cymru
Ddoe, cafodd saith o Leoedd Bwyd Cynaliadwy Cymru gydnabyddiaeth am eu dulliau llwyddiannus o greu systemau bwyd lleol cynaliadwy ac iach. Cafodd y gwobrau eu cyflwyno gan Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
Yn y seremoni a gynhaliwyd yn ystod Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru, cyflwynwyd gwobrau Efydd i Flaenau Gwent, Powys, Sir Benfro a Phen-y-bont ar Ogwr, a chafodd Sir Gaerfyrddin, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg wobr arian.

Yn ogystal â dathlu enillwyr y gwobrau, cafodd Ceredigion a Phort Talbot eu llongyfarch am ddod yn aelodau o’r rhwydwaith, gan nodi eu hymrwymiad i wneud bwyd iach a chynaliadwy yn nodwedd y gellir ei diffinio o ble mae pobl yn byw.
Yn ystod y digwyddiad, meddai Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru: “Mae ein cymunedau yng Nghymru yn wynebu lefelau digynsail o ddiffyg diogeled bwyd a salwch sy’n ymwneud â deiet – ac mae’n mynd i gymryd ymdrech ar y cyd ar lefel gymunedol a chenedlaethol i wella ein system fwyd. Mae partneriaethau bwyd lleol yng Nghymru yn cael effaith fawr – mae eu ffocws cymunedol a’u dulliau arloesol yn rhoi bwyd ar y bwrdd i’r rhai sydd ei angen fwyaf ac maent yn profi y gallwn dyfu mwy o fwyd lleol yng Nghymru sy’n llesol i bobl ac i’r blaned.
“Yr wythnos hon, rwy’n lansio fy nghyngor i awdurdodau lleol ynghylch sut y gallant helpu ein cymunedau i gael mynediad at fwyd mwy lleol, iach a chynaliadwy – a fy nghyngor cyntaf i’n hawdurdodau lleol yw y dylent gymryd rhan, a chefnogi eu partneriaethau bwyd lleol.”
Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yw un o’r mudiadau cymdeithasol sy’n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae ei rwydweithiau’n dwyn ynghyd bartneriaethau bwyd arloesol o drefi, dinasoedd, bwrdeistrefi, ardaloedd a siroedd ledled y DU sy’n hyrwyddo arloesedd a’r arferion gorau ar bob agwedd ar fwyd iach a chynaliadwy. Mae’r partneriaethau bwyd hyn yn dwyn ynghyd bartneriaid o amrywiaeth o sectorau gwahanol i helpu i fynd i’r afael â materion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, gan gydweithio i sicrhau bwyd da i bawb. Maent yn gweithio ar draws sectorau gan ddod â phobl allweddol ynghyd i ddatblygu gweledigaeth o fwyd mwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol sydd wedi’i theilwra i’w hardal leol ac sy’n ymateb i’w hanghenion penodol.
Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn bartner cenedlaethol i’r rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru ac mae’n cefnogi 13 o bartneriaid. Chwaraeodd Synnwyr Bwyd Cymru ran allweddol mewn sefydlu a meithrin partneriaethau bwyd fel rhan o’i waith o arwain y rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru ac mae bellach yn cefnogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhwydwaith ehangach Cymru o 22 o bartneriaethau bwyd lleol – un ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru – gan hybu arloesedd ac arferion gorau mewn systemau bwyd iach a chynaliadwy.
“Rydym wrth ein bodd o fod wedi cyflwyno gwobrau i bump o Leoedd Bwyd Cynaliadwy Cymru ac roeddem yn falch iawn o groesawu dau aelod newydd arall i’r rhwydwaith,” meddai Pearl Costello, Rheolwr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn Synnwyr Bwyd Cymru. “Rydym yn hynod falch o’r gwaith sy’n cael ei wneud ledled Cymru. Mae’r aelodaeth sy’n tyfu, yn ogystal â’r nifer gynyddol o leoedd sy’n ennill gwobrau yng Nghymru, yn dyst i’r gwaith caled a’r cydweithio sy’n digwydd ledled y wlad.”
Mae Partneriaethau Bwyd yn mabwysiadu dull o weithio drwy systemau sy’n golygu eu bod yn mynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion bwyd gwahanol ond sydd â chysylltiad rhyngddynt i gyflawni newid. Mae’r materion hyn yn cynnwys diffyg diogeled bwyd i deuluoedd – gan sicrhau mynediad at fwyd iach, maethlon i bawb – a llunio cadwyni cyflenwi lleol gwydn sy’n lleihau allyriadau Carbon, yn hybu natur ac yn cefnogi’r economi leol. Ond mae partneriaethau bwyd hefyd yn gwneud llawer mwy na chanfod atebion i broblemau cymhleth. Maent yn ysgogi newid; yn ysbrydoli syniadau; yn galluogi arloesedd; ac yn grymuso cymunedau i ymgysylltu â gweithgareddau a mentrau sy’n ymwneud â bwyd da.
Atega Leon Ballin, Rheolwr Rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ar draws y DU: “Mae partneriaethau ledled Cymru wedi dangos beth y gellir ei gyflawni pan fydd pobl greadigol ac ymrwymedig yn cydweithio i wneud bwyd iach a chynaliadwy yn nodwedd ddiffiniol o ble y maent yn byw. Er bod llawer i’w wneud o hyd a nifer o heriau i’w goroesi, mae partneriaethau Cymru sydd wedi ennill sawl gwobr wedi helpu i bennu meincnod i’r 120 a mwy o aelodau eraill Rhwydwaith Bwyd Cynaliadwy y DU ei ddilyn. Dylent ymfalchïo’n fawr yn y gwaith y maent wedi bod yn ei wneud i drawsnewid ein diwylliant bwyd ar y cyd a’n system fwyd er y gorau.”
DIWEDD