Prosiect Gardd Salad Caerdydd yn blodeuo diolch i gefnogaeth Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes

Heddiw (ddydd Iau, 3 Mehefin), bydd Gardd Salad Caerdydd yn agor ei gweithdy symudol 6 metr gwych ac ysbrydoledig sy’n llawn salad byw, yn swatio yng nghanol Parc Bute Caerdydd.  Bydd ar agor tan 8 Mehefin a bydd yn croesawu mwy na 150 o gyfranogwyr i ddysgu mwy am blannu, tyfu, cynaeafu a choginio dail salad.

Comisiynwyd y Bottega Project gan Ardd Salad Caerdydd i greu’r cylch salad byw, sef strwythur symudol sy’n cynnwys sawl wal dyfu fodiwlaidd lle mae planhigion â gwreiddiau bas wedi’u plannu o’r llawr i’r nenfwd, yn cynnwys salad ac amrywiaeth o berlysiau a blodau bwytadwy eraill. Bydd y waliau byw yn rhyngweithiol, bydd modd eu newid a bydd cyfranogwyr y gweithdy yn cael cyfle i gynaeafu planhigion yn ogystal â’u plannu.

Mae’r prosiect hwn yn cael grant gwerth £10,000 gan Dewch at eich Gilydd Bwyd Am Oes fel rhan o’i waith i brofi dulliau arloesol a datblygu ymhellach ei fentrau presennol sy’n dod â phobl o wahanol genedlaethau a chefndiroedd ynghyd drwy gyfrwng bwyd.

Rhaglen o weithgareddau cymunedol rheolaidd yw Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes sy’n cysylltu pobl o bob oed a chefndir drwy dyfu, coginio a rhannu bwyd da. Mae’n rhaglen 4 blynedd sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a ddechreuodd ym mis Mehefin 2019 ac sy’n cael ei harwain gan elusen Bwyd am Oes Cymdeithas y Pridd, a chaiff ei darparu yng Nghymru gan Synnwyr Bwyd Cymru.

Diolch i wybodaeth helaeth Gardd Salad Caerdydd am blanhigion a pherlysiau deiliog, amrywiol a bwytadwy sy’n tyfu’n gyflym, mae dros 20 o wahanol ddail salad yn amrywio o letys i ddail berwr y gerddi, mwstard, sbigoglys bach, coriander a suran wedi’u plannu ar y waliau, gan gynnwys planhigion sy’n gyfarwydd i wahanol gymunedau.

“Daw’r strwythur yn ardd a’n nod yw darparu lle croesawgar ac ymarferol i ddod â chymunedau Caerdydd a’r cylch ynghyd drwy hyrwyddo tyfu a rhannu bwyd iach yn lleol,” medd Sophie Bolton o Ardd Salad Caerdydd.

“Bydd hwn yn ofod hygyrch i bobl o bob oed a gallu a’r bwriad yw defnyddio’r gweithdy symudol fel prif arf fydd yn caniatáu i ni ddarparu cymorth i grwpiau cymunedol sydd am dyfu a rhannu bwyd.

“Drwy gydol cyfnod preswyl y gweithdy symudol ym Mharc Bute, byddwn yn cynnal cyfres o sesiynau wedi’u hamserlennu ar gyfer grwpiau ac unigolion a wahoddwyd yn ogystal â sesiynau ‘galw heibio’ i’r cyhoedd sy’n dymuno darganfod mwy am y prosiect,” medd Sophie.  “Byddwn yn cynnal cyfanswm o bedair sesiwn ar ddeg ar y themâu Plannu, Cynaeafu a Blasu; Creu a Phlannu Cynwysyddion Tyfu Gartref a Cynllunio ac Adeiladu’ch Gofod Tyfu neu Wal Werdd eich hun. Ein gobaith yw y bydd y sesiynau hyn yn helpu i gynyddu cyfalaf cymdeithasol ac yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy i bobl.  Byddwn hefyd yn cyflwyno grwpiau i sefyllfaoedd cymdeithasol newydd.

Yng Nghaerdydd mae gennym doreth o wybodaeth a phrofiad o bob cwr o’r byd am dyfu a choginio bwyd,” ychwanega Sophie. “Rydyn ni eisiau creu gofod lle y gall pobl gael eu hysbrydoli gan fwyd a chan blanhigion byw. Rydyn ni eisiau creu cyffro a diddordeb am darddiad bwyd a sut mae’n cael ei dyfu ac rydyn ni eisiau helpu pobl i deimlo’n llai ynysig.

“Rydym hefyd yn credu y bydd y prosiect hwn yn ein helpu i ddathlu ein gwahaniaethau a’n profiadau gwahanol. Bydd rhannu bwyd da, straeon, gwybodaeth a syniadau yn helpu i bontio bylchau rhwng y cenedlaethau ac yn arwain at gymuned fwy goddefgar, bywiog a chynhwysol lle mae pawb yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi. Rydyn ni wir yn gobeithio y bydd llawer mwy o grwpiau cymunedol yn cael eu hysbrydoli i dyfu a rhannu bwyd ffres gyda’i gilydd drwy’r prosiect hwn.”

Mae rhaglen Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes yn falch iawn o gefnogi prosiect mor ddiddorol ac uchelgeisiol yng Nghaerdydd ac yn edrych ymlaen at weld y strwythur ym Mharc Bute.

“Nod Bwyd am Oes yw gwneud bwyd da yn ddewis hawdd i bawb – gwneud prydau iach, blasus a chynaliadwy yn beth arferol i bawb eu mwynhau, gwneud pobl yn fwy ymwybodol o darddiad eu bwyd, addysgu pobl ynglŷn â sut mae’n cael ei dyfu a’i goginio, a hyrwyddo pwysigrwydd cynhwysion o ffynonellau da,” medd Louise Shute, Rheolwr Rhaglen Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes yng Nghymru.

Yn seiliedig ar bartneriaethau â grwpiau o ysgolion, meithrinfeydd, sefydliadau a grwpiau cymunedol, mae Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes yn addas ar gyfer pobl o bob oed a chefndir. Gall y cyfle i ddod ynghyd a chymdeithasu, wrth rannu bwyd iach a ffres, neu drwy dyfu neu goginio bwyd gyda’ch gilydd, newid bywydau pobl o ddydd i ddydd er gwell. Mae’r prosiect hwn gan Ardd Salad Caerdydd yn enghraifft wych o sut y gall yr holl elfennau hyn ddod ynghyd, a chreu ffordd wirioneddol arloesol o rannu gwybodaeth, profiadau a sgiliau.”

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â Gardd Salad Caerdydd a’r gweithdy salad symudol, ewch i cardiffsaladgarden.co.uk neu dilynwch @cardiffsalad ar Twitter.

I gael rhagor o wybodaeth am Brosiect Bottega ewch i www.bottegaproject.co.uk

 DIWEDD