Bwyd Ein Dyfodol: Sut Gall Awdurdodau Lleol Llunio Systemau Bwyd Gwell yng Nghymru

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Synnwyr Bwyd Cymru wedi cyd-gynhyrchu canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru ar sut y gallant weithio gyda Phartneriaethau Bwyd Lleol i wella systemau bwyd lleol.

Mae Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025 wedi canfod, heb gamau brys i gynyddu mynediad at fwyd lleol, iach a chynaliadwy, na fydd Cymru’n gallu cyflawni nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r adroddiad yn argymell datblygu strategaethau cydnerthedd bwyd dan arweiniad awdurdodau lleol.

Mae’r canllawiau hyn yn amlinellu arfer da, astudiaethau achos ac adnoddau ynghylch y polisïau sy’n gysylltiedig â bwyd y gall awdurdodau lleol eu rheoli a dylanwadu arnynt. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar lywodraethu, cynllunio, caffael, mynediad at fwyd, hyrwyddo dietau iach a gwastraff bwyd.

Darllenwch y canllawiau yma.