Bro Morgannwg yn dathlu cyflawni Gwobr Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy

Heddiw (dydd Mercher, 15 Mehefin), cyhoeddwyd bod Bro Morgannwg wedi ennill statws Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, sy’n golygu mai dyma’r ail le yn unig yng Nghymru i gael yr anrhydedd.

Mae Bro Morgannwg, ynghyd â Bury, Islington, Swydd Gaerlŷr a Swydd Lincoln Fwyaf wedi derbyn statws Efydd, yn cydnabod gwaith arloesol i sir yn hyrwyddo iechyd a bwyd cynaliadwy. Tynnodd cais y Fro ar gyfer y wobr sylw at achlysur lansio Cynllun Gweithredu Bwyd Cynaliadwy yn ddiweddar, ‘Prosiect Sero’, sef Cynllun Her Newid Hinsawdd y cyngor, y prosiect partneriaeth arloesol Mynediad at Fwyd sydd yn cael ei roi ar brawf yn Llanilltud Fawr a gweithgareddau sydd yn rhan o’r mudiad bwyd da, fel Gŵyl Bwyd y Fro yn ddiweddar.

Cydlynir y gwaith ym Mro Morgannwg gan Bwyd y Fro – partneriaeth o unigolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau a busnesau ymrwymedig yn cydweithio i ddatblygu system iach a ffyniannus o fwyd cynaliadwy yn y Fro.

Mae Bwyd y Fro, a gynhelir gan Dîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a’r Fro, bellach yn cynnwys dros 60 o unigolion ar draws 30 o sefydliadau ac mae ganddo grŵp llywio sydd yn cynnwys amrywiaeth o aelodau, yn cynnwys Cyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg a Thyddynwyr Morgannwg.

Trwy’r rhwydwaith hwn o bartneriaid ymroddedig, mae Bwyd y Fro yn sbarduno newid ar lefel sir gyfan ac yn gweithio i fynd i’r afael â rhai o faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mwyaf yr oes hon.

Prif feysydd blaenoriaeth Bwyd y Fro ar gyfer mudiad bwyd da ym Mro Morgannwg yw:

  1. Pryd o fwyd da i bawb, bob dydd
  2. Busnesau bwyd ffyniannus lleol sydd yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi
  3. Meddwl yn fyd-eang, bwyta’n lleol

Mae Louise Denham, cydlynydd Bwyd y Fro ac awdur y cais Efydd, wrth ei bodd bod Bro Morgannwg wedi cael statws Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ac mae’n ddiolchgar i unigolion, busnesau a sefydliadau ar hyd a lled y sir am gael rôl mor weithredol yn llwyddiant y bartneriaeth fwyd.

“Mae hwn yn rhywbeth y gallwn i gyd ei ddathlu. Mae’r diolch i bob un ohonoch ar draws y Fro – o grwpiau cymunedol sydd wedi meithrin gerddi bwytadwy hardd, i’r busnesau lleol sy’n dewis rhoi bwyd iach a chynaliadwy ar eich bwydlenni a’r ffermwyr sy’n rhoi blaenoriaeth i arferion sydd yn dda i ni ac i’r blaned. Mae ein cyflawniad yn rhoi neges glir – rydym yn benderfynol o ddatblygu system fwyd leol gadarn yma yn y Fro, ac yn sicr nid dyma diwedd y daith!”

Cyflawnodd Caerdydd, aelod sylfaenol o rwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, statws Efydd yn 2015, cyn mynd ymlaen i gyflawni statws Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn 2021. Gall Bwyd y Fro, a ddaeth yn aelod o Leoedd Bwyd Cynaliadwy yn 2020, bellach ddathlu statws Efydd y sir, gan ymuno â Chaerdydd wrth i’r ddwy sir arwain y ffordd yng Nghymru o ran partneriaethau bwyd lleol. Yn ddiweddar, daeth pump Lle Bwyd Cynaliadwy pellach yng Nghymru – yn cynnwys Sir Fynwy, Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent, Gogledd Powys a Sir Gaerfyrddin – yn aelodau, gyda’r mudiad yn parhau i ennill momentwm ar draws y wlad.

Dywedodd Leon Ballin, Rheolwr Rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy:  “Mae Bro Morgannwg wedi dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd pobl greadigol ac ymrwymedig yn cydweithio i wneud bwyd iach a chynaliadwy yn nodwedd benodol o’r lle y maent yn byw ynddo. Er bod llawer i’w wneud o hyd a llawer o heriau i’w goresgyn, mae’r Fro wedi helpu i osod meincnod i’r 80+ o aelodau Rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn y DU ei ddilyn.  Edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod i drawsnewid diwylliant bwyd a system fwyd y Fro er gwell.”

Mae Cyngor Sir Bro Morgannwg wedi bod yn allweddol yn sefydlu partneriaeth fwyd y Fro ac mae wrth ei fodd bod ymdrechion ac uchelgais y sir wedi cael eu cydnabod.

Dywedodd Bronwen Brooks, Aelod o Gabinet Cyngor Bro Morgannwg ar gyfer Lleoedd Cynaliadwy: “Rwyf wrth fy modd bod Bro Morgannwg wedi derbyn y wobr haeddiannol hon, un sy’n cydnabod ymdrechion cymaint o bobl i hyrwyddo bwyd iach a chynaliadwy.  “Mae busnesau lleol, grwpiau cymunedol, gwirfoddolwyr, y Cyngor ac amrywiaeth o sefydliadau eraill wedi helpu i annog y sgwrs am yr hyn yr ydym yn ei fwyta ac effaith y dewisiadau hynny ar ein llesiant ac ar yr amgylchedd.  “Mae menter Cynllun Prosiect Sero y Cyngor, gyda’r nod o wneud yr Awdurdod yn garbon niwtral erbyn 2030, yn pwysleisio’r angen i wneud ein systemau bwyd yn ganolog i’n gwaith yn mynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae hwn yn faes lle gall pawb gydweithio a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.”

Dywed Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, sydd yn cynnal Bwyd y Fro:  “Mae’n gyflawniad rhagorol i Fro Morgannwg dderbyn anrhydedd mor flaenllaw, sef statws Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy. Mae’r wobr hon yn glod i Bwyd y Fro, ac unigolion a phartneriaid sydd wedi bod yn ymdrechu i ddatblygu’r mudiad bwyd da ym Mro Morgannwg. Bydd darparu dewisiadau bwyd lleol, cynaliadwy ac iach nid yn unig yn creu buddion iechyd a llesiant niferus, ond bydd hefyd yn cyfrannu at blaned iachach, gan gefnogi pobl nawr ac am genedlaethau i ddod.”

Lleoedd Bwyd Cynaliadwy (Dinasoedd Bwyd Cynaliadwy yn flaenorol) yw un o’r mudiadau cymdeithasol sydd yn tyfu gyflymaf yn y DU. Mae ei rwydwaith yn dod â phartneriaethau bwyd arloesol o drefi, dinasoedd, bwrdeistrefi a siroedd ynghyd ar draws y DU, sydd yn sbarduno arloesi ac arfer gorau ar bob agwedd ar fwyd iach a chynaliadwy.

Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn bartner cenedlaethol i Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru a’i uchelgais yw gweld partneriaeth fwyd ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, gan greu rhwydwaith fyddai’n creu’r sylfaen ar gyfer datblygu’r weledigaeth, y seilwaith a’r gweithredoedd sydd eu hangen i wneud system fwyd Cymru’n addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol.

Ar ddechrau’r tymor hwn o’r Senedd, gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad i’w Rhaglen Lywodraethu (2021-2026) y byddai’n datblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol i annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd â tharddiad lleol yng Nghymru.  Cred Synnwyr Bwyd Cymru fod gan Strategaeth Bwyd Cynaliadwy y potensial i greu system fwyd fwy cydnerth, amrywiol a chysylltiedig ar gyfer cymunedau ledled Cymru – gyda phartneriaethau bwyd lleol yn gallu chwarae rôl hanfodol

“Mae gan ymagwedd yn seiliedig ar le, fel Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, y gallu i gefnogi cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn ogystal â datblygu cadwyni cyflenwi amaeth-ecolegol; i gynyddu faint o fwyd lleol sy’n cael ei weini ar blât y cyhoedd ac i annog dinasyddiaeth fwyd a chyfranogiad mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru,” dywed Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen yn Synnwyr Bwyd Cymru.

“Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn cefnogi saith aelod presennol Cymru – Bwyd CaerdyddBwyd y Fro,  Partneriaeth Bwyd Sir FynwyBwyd RhCT, Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent, Partneriaeth Bwyd Gogledd Powys a Bwyd Sir Gâr Food yn Sir Gaerfyrddin,” aeth ymlaen.  “Rydym hefyd yn cefnogi prosiect newydd yn Nhorfaen wrth i’r sir hon barhau i ddatblygu ei model partneriaeth a gweithio tuag at fod yn aelod llawn o Rwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy y DU.

“Rwyf mor falch bod Bro Morgannwg wedi cael Statws Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, sy’n golygu mai dim ond yr ail le yng Nghymru ydyw i gael yr anrhydedd pwysig hwn. Mae’r wobr yn dangos effaith gadarnhaol pobl, cymunedau, sefydliadau a busnesau sydd yn cydweithio i sbarduno newid,” ychwanega Katie.

Gobaith Synnwyr Bwyd Cymru yw y bydd llwyddiant Bro Morgannwg yn annog ardaloedd eraill yng Nghymru i ymuno a helpu i arwain y ffordd yn sefydlu a thyfu seilwaith yn seiliedig ar le, gan gyfrannu at ddatblygiad ‘mudiad bwyd da’ a strategaethau bwyd cymunedol ehangach fydd o fudd i iechyd, cynaliadwyedd a ffyniant cymdeithasol cymunedau ar hyd a lled Cymru.

DIWEDD