Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent

Yn gweithio tuag at aelodaeth Lleoedd Bwyd Cynaliadwy

Mae Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent, a sefydlwyd yn 2021, yn gorff sy’n cynnwys sefydliadau o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n gweithio i gefnogi Blaenau Gwent gyda’r genhadaeth i ddod yn Lle Bwyd Cynaliadwy.  Mae’r Bartneriaeth Bwyd yn rhoi cefnogaeth ac arweiniad wrth helpu Blaenau Gwent i symud at system fwyd a fydd yn arwain at newid cadarnhaol.

Gyda Bwrdd Partneriaeth sy’n cynnwys Cymdeithas Tai Calon, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Cyfoeth Naturiol Cymru, mae’r grŵp yn credu’n gryf bod gwneud bwyd cynaliadwy’n ganolbwynt ar gyfer yr ardal yn mynd i arwain at wneud bwyd iach, fforddiadwy yn fwy hygyrch.  Mae’r Bartneriaeth hefyd yn cydnabod gwerth mawr ymgysylltu a gweithredu cymunedol ac mae am annog pobl o bob oed, ar draws y sir, i ddod yn ddinasyddion bwyd gan ddatblygu a meithrin ‘Mudiad Bwyd Da’ gweithgar yn yr ardal.

Wrth wraidd ethos y Bartneriaeth mae’r dyfalbarhad i gydweithio â chymunedau, busnesau a sefydliadau er mwyn gweld camau gweithredu uniongyrchol yn seiliedig ar le.  Mae hyn yn hyrwyddo ffyniant ac yn gwella cydnerthedd pobl, lleoliadau a’r blaned, a hynny mewn ffordd gyfiawn a theg.

Mae Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent eisiau sefydlu strategaeth uchelgeisiol sy’n mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd o fewn system fwyd Blaenau Gwent.  Bydd sefydlu partneriaeth fwyd leol ym Mlaenau Gwent yn chwarae rhan ganolog wrth gydlynu camau gweithredu lleol ar faterion fel mynediad at fwyd a datblygu ‘Mudiad Bwyd Da’.  Mae bod yn rhan o grŵp traws sector o sefydliadau yn golygu bod y Bartneriaeth Fwyd hefyd mewn sefyllfa dda i hyrwyddo polisïau bwyd cynaliadwy ar lefel lywodraethu lleol – sy’n sbardun allweddol ar gyfer sicrhau newid cynaliadwy.

“Mae’r bartneriaeth yn ceisio galluogi preswylwyr i feddu ar sgiliau a gwybodaeth yn ogystal â’r pŵer dros ddewisiadau bwyd, i wneud penderfyniadau sy’n gwneud lles i iechyd pobl a’r blaned,” meddai Chris Nottingham, Cydlynydd y Bartneriaeth Fwyd.  “Drwy sefydlu ‘Mudiad Bwyd Da’ mae’r bartneriaeth yn gobeithio ysbrydoli a chysylltu pobl a lleoedd, gan sbarduno newid cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.”

Ers ffurfio’r Bartneriaeth Fwyd, gwelwyd ymateb mwy cydgysylltiedig i argyfwng tymor byr o ran darpariaeth bwyd ledled y sir.  Mae’r Bartneriaeth hefyd yn gweithio gyda grwpiau i gynnig gwell mynediad at dir i brosiectau tyfu cymunedol, sy’n arwain at weithredu ar y cyd. Mae’r diddordeb cynyddol mewn systemau bwyd lleol hefyd yn dangos yr effaith wirioneddol y gall bwyd ei chael ar iechyd, llesiant a ffyniant pobl.

“Rydym eisiau gweld cadwyni cyflenwi lleol yn ffynnu er mwyn cefnogi ystod amrywiol o leoliadau bwyd lleol,” meddai Chris.  “Byddem yn hoffi gweld y galw ar bobl i dyfu eu bwyd eu hunain yn cael ei ddiwallu, gan annog cymunedau i ddiogelu a chyfoethogi natur a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd drwy leihau gwastraff, gwella deiet a chynyddu bioamrywiaeth.

“Yn bennaf oll, rydym eisiau cefnogi’r newid i system fwyd sy’n cysylltu cymunedau ar bob cam, o’i gynhyrchu i’w fwyta, gan wneud bwyd da yn ddewis hawdd i bob preswylydd.”

Y nod nesaf i Bartneriaeth Fwyd Blaenau Gwent yw dod yn aelod o Rwydwaith Sustainable Food Places – rhwydwaith sy’n dwyn ynghyd bartneriaethau bwyd eraill arloesol o drefi, dinasoedd, bwrdeistrefi, ardaloedd a siroedd ledled y DU, sy’n sbarduno arloesedd ac arfer gorau ar bob agwedd ar fwyd iach a chynaliadwy.

Ychwanega Chris, “Bydd fframwaith Sustainable Food Places a’r adnoddau cynhwysfawr sydd ar gael yn gwneud y daith tuag at fod yn lleoliad bwyd cynaliadwy yn nod realistig a chyraeddadwy.”

“Gyda rhwydwaith o aelodau sy’n weithredol yn lleol ac yn genedlaethol, mae cefnogaeth ar gael i helpu gyda llawer o’r heriau sy’n wynebu partneriaethau bwyd lleol.  Mae hefyd yn cynnig ysbrydoliaeth i’r rhai sy’n dechrau dod yn rhan o’r rhwydwaith, drwy’r aelodau cyfeillgar – sy’n  teimlo’n angerddol am weld partneriaethau bwyd lleol yn llwyddo gan gyflwyno newid gwirioneddol ac ystyrlon yn eu hardaloedd.  Ym Mlaenau Gwent, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ein cam nesaf ar y daith tuag at ddod yn lle bwyd cynaliadwy.”

Cyswllt