Astudiaeth Achos: Stori Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent

Mae Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent yn cefnogi unigolion a sefydliadau sy’n gweithio yn system fwyd y rhanbarth i hyrwyddo dewisiadau bwyd iach, cynaliadwy a theg. Mae’r bartneriaeth yn credu bod bwyd yn ein cysylltu ni i gyd, a gall bwyd da fod yn sylfaen i gymunedau cryf, iach a gwydn. Nod y bartneriaeth yw arwain y newid y mae ei chymunedau ei eisiau a helpu pobl, lleoedd a’r blaned.

Dechreuad a Datblygiad:

Dechreuodd Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent yn ôl yn 2019 pan drefnwyd cyfarfod rhwng Synnwyr Bwyd Cymru, Tai Calon a Thîm Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i drafod camau gweithredu i ddelio â thlodi bwyd, gan ddefnyddio gwersi a ddeilliodd o weithgarwch yng Nghaerdydd a sylwadau gan Gynghrair Tlodi Bwyd De Cymru. Ar ôl mapio gwaith tlodi bwyd ym Mlaenau Gwent, erbyn tymor yr hydref yn 2019, roedd y sir wedi dod yn un o’r ardaloedd profi a dysgu ar gyfer rhaglen Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes gan weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol a deietegwyr.

Erbyn mis Ionawr 2020, roedd Prif Weithredwr Tai Calon ynghyd ag Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus wedi drafftio cynnig ar gyfer Rhaglen Bwyd Cynaliadwy i’w gyflwyno i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus lleol, a mis yn ddiweddarach cynhaliwyd digwyddiad ‘Arlwy ar gyfer Newid’, a ddaeth â phartneriaid o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac awdurdodau cyfagos ynghyd i ystyried yr hyn y gallai partneriaeth fwyd ei gynnig.

Erbyn mis Ionawr 2021, yn dilyn sawl trafodaeth gyda rhanddeiliaid allweddol, sicrhawyd cyllid gan Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu partneriaeth fwyd traws-sector ym Mlaenau Gwent gyda’r nod yn y pen draw o ddod yn aelod o’r rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy. Cafodd gwaith y bartneriaeth ei arwain gan Tai Calon, sef sefydliad noddi’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y pryd, a datblygwyd y gwaith ar y cyd â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent, Cyfoeth Naturiol Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Ymdrechion Cynnar:

Yn 2021, creodd Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent gynllun gwaith chwe mis o hyd a oedd yn canolbwyntio ar gamau gweithredu i’w cyflawni a fyddai’n cyd-fynd â’r gwaith o ffurfio’r bartneriaeth fwyd. Cafodd y gwaith hwn ei oruchwylio gan gydlynydd a oedd yn newydd i’w rôl, ac roedd llawer o’r gwaith yn canolbwyntio ar adeiladu’r rhwydwaith, mapio bwyd a gwaith brandio er mwyn helpu i osod y sylfeini a manteisio ar y brwdfrydedd dros newid systemau ym Mlaenau Gwent. Fe wnaeth llwyddiant cynllun gwaith cychwynnol y bartneriaeth arwain at greu cynllun gweithredu dwy flynedd o hyd a oedd yn fwy uchelgeisiol, ac a oedd wedi’i adolygu a’i gymeradwyo gan y Bwrdd Llesiant Lleol, cyn ei lansio ym mis Medi 2022.

Rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy a’r Siarter Fwyd:

Fel rhan o ymrwymiad Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent i arferion cynaliadwy, ymunodd â’r rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy. Yn dilyn ymgynghoriadau helaeth â rhanddeiliaid ar draws gwahanol sectorau, gan gynnwys y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, cyhoeddodd y bartneriaeth Siarter Fwyd Blaenau Gwent. Mae’r siarter hon yn amlinellu set o flaenoriaethau sy’n cyd-fynd ag egwyddorion Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, gyda’r nod o wneud bwyd da yn ganolbwynt i ddiwylliant bwyd ffyniannus, er budd pobl, lleoedd a’r blaned. Mae blaenoriaethau’r siarter yn ymdrin ag agweddau megis y gallu i gael gafael ar fwyd da yn ddyddiol, sicrhau y gall pawb ddysgu, ymgysylltu â’r gymuned, diogelu’r amgylchedd, a meithrin diwylliant bwyd llewyrchus.

Cydweithio gyda’r Bwrdd Iechyd:

Gan gydnabod yr anghydraddoldebau iechyd dybryd ym Mlaenau Gwent, yn enwedig mewn meysydd fel gordewdra, iechyd deintyddol, a bwydo ar y fron, ffurfiodd Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent berthynas waith agos â’r Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan er mwyn defnyddio data a thystiolaeth i ganolbwyntio ar gamau gweithredu. Mae’r bartneriaeth wedi helpu i gydlynu ymdrechion a dod â gwasanaethau’r Bwrdd Iechyd, megis y Rhaglen Iechyd Cymunedol, i’r cymunedau sydd eu hangen fwyaf.

“Mewn ardaloedd ar draws Gwent, nid yw pobl yn byw mor hir ag y dylent fod yn byw. Mae disgwyliad oes iach ym Mlaenau Gwent yn is na chyfartaledd Cymru ar gyfer menywod ac ar gyfer dynion. Mae’n annerbyniol bod disgwyliad oes ac iechyd pobl yn cael ei benderfynu gan ble maen nhw’n byw, mae angen i ni sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i fyw gydol eu hoes heb iechyd gwael lle bo modd atal hynny. Mae mynediad i fwyd iach yn rhan allweddol o hyn ac mae gwaith Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Blaenau Gwent yn allweddol i helpu i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau iechyd hyn.”  Yr Athro Tracy Daszkiewicz, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Egwyddorion Marmot ac Anghydraddoldebau Iechyd:

Ym mis Hydref 2022, cafodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent ei enwi’n Rhanbarth Marmot cyntaf Cymru, a’r cyntaf i fabwysiadu wyth Egwyddor Marmot i leihau anghydraddoldebau iechyd.

  1. Rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn
  2. Galluogi pob plentyn, person ifanc ac oedolyn i wneud y gorau o’u galluoedd a chael rheolaeth dros eu bywydau
  3. Creu cyflogaeth deg a gwaith da i bawb
  4. Sicrhau safon byw iach i bawb
  5. Creu a datblygu mannau a chymunedau iach a chynaliadwy
  6. Cryfhau rôl ac effaith atal salwch
  7. Mynd i’r afael â hiliaeth, gwahaniaethu a’u canlyniadau
  8. Anelu at gynaliadwyedd amgylcheddol a chydraddoldeb iechyd gyda’n gilydd

Mae’r egwyddorion hyn yn canolbwyntio ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy ddilyn camau gweithredu sy’n targedu penderfynyddion cymdeithasol iechyd:

Mae adroddiad Gwent Teg i Bawb (2023) a luniwyd ar gyfer Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent yn trafod sut y mae tlodi yn effeithio ar iechyd, gan gynnwys ei bod yn anoddach cael gafael ar fwyd iach. Argymhellodd yr adroddiad y dylai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus flaenoriaethu trechu tlodi bwyd er mwyn lliniaru effaith y cynnydd mewn costau byw. Mae mabwysiadu Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent yn gynnar yng Nghynllun Llesiant Lleol Blaenau Gwent wedi ei alluogi i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd sy’n ymwneud â bwyd yn fwy effeithiol.

Cynllun Cychwyn Iach:

Yn unol ag Egwyddor Marmot o roi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn, mae’r bartneriaeth yn gweithio i sicrhau negeseuon cyson o fewn y gymuned. Gan ddefnyddio hyfforddiant rheng-flaen Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ynghylch manteision bwyd, mae staff mewn Cymdeithasau Tai ac Awdurdodau Lleol yn ymwybodol o’r negeseuon allweddol ynghylch y cymorth sydd ar gael, ac maent yn gallu atgyfeirio pobl yn effeithiol. Mae’r ymdrech hon ar y cyd wedi arwain at lwyddiant rhyfeddol, ac mae’r niferoedd sy’n manteisio ar y cynllun Cychwyn Iach ym Mlaenau Gwent gyda’r uchaf yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. O ganlyniad, mae Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent bellach yn ymgymryd â’r rôl o gadeirio cyfarfodydd dull rhanbarthol Gwent ar gyfer cynyddu’r niferoedd sy’n manteisio ar y rhaglen Cychwyn Iach gyda phartneriaethau bwyd eraill, Dechrau’n Deg ac ymwelwyr iechyd.

Prosiectau Cymunedol Effeithiol:

Mae Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent yn ymgysylltu’n rhagweithiol â’r gymuned leol drwy brosiectau amrywiol. Mae’r mentrau hyn yn dangos y potensial ar gyfer newid cadarnhaol ac yn hyrwyddo nod y bartneriaeth o sicrhau bwyd da i bawb. Mae’r holl brosiectau cymunedol hyn hefyd yn cyd-fynd â dwy o Egwyddorion Marmot: Sicrhau safon byw iach i bawb a Creu a datblygu mannau a chymunedau iach a chynaliadwy. Mae’r enghreifftiau yn cynnwys:

  1. Grant Tlodi Bwyd EUTF: Rhandir Cymunedol Wedi’i Ariannu: Defnyddiwyd grant Tlodi Bwyd EUTF gan Lywodraeth Cymru i greu rhandir cymunedol yng Nghoetiroedd Bryn Sirhywi. Fe wnaeth y fenter hon sicrhau arian ychwanegol o wahanol ffynonellau, gan arwain at ddarparu bocsys llysiau organig cyntaf Blaenau Gwent i’r cyhoedd. Dosbarthwyd y bocsys hyn hefyd i brosiectau lleol a oedd yn mynd i’r afael â diffyg diogeled bwyd.
  2. Y Grant Datblygu Partneriaethau Bwyd gan Lywodraeth Cymru: Mae grant Datblygu Partneriaethau Bwyd diweddar Llywodraeth Cymru wedi golygu y gellir cyflenwi cynnyrch ffres i ganolfan gymunedol leol. Mae’r ganolfan hon yn cynnig prydau cost-effeithiol i gyfranogwyr sy’n dysgu sgiliau coginio newydd, ac mae’r cymorth hwn wedi’i warantu am gyfnod o 12 mis.
  3. Clwb y Peiriant Coginio Araf (Slow Cooker) yn Llanhiledd: Fe wnaeth y rhaglen hon, a ariannwyd yn wreiddiol i ddosbarthu 15 peiriant coginio araf o fewn y gymuned, arwain at lwyddiant a ddenodd gyllid ychwanegol. Bellach mae dros 100 o beiriannau coginio araf wedi’u darparu i helpu pobl i baratoi prydau fforddiadwy gartref. Mae’r llwyddiant hwn wedi ysbrydoli tri grŵp arall ym Mlaenau Gwent i lansio eu cyrsiau eu hunain ar ddefnyddio Peiriant Coginio Araf.
  4. Menter Bwyd Dros Ben Sefydliad y Glowyr yn Llanhiledd: Mewn ymateb i heriau o ran y gadwyn cyflenwi bwyd dros ben, mae Sefydliad y Glowyr yn Llanhiledd yn darparu pecynnau bwyd i 50 o ddefnyddwyr gwasanaethau yn ystod cyfnod anodd y gaeaf. Mae staff wedi cwblhau hyfforddiant Sgiliau Maeth am Oes i sicrhau bod prydau iach yn cael eu darparu ac i gefnogi diogelwch bwyd cymunedol.
  5. Prosiect Pentref Tyleri a Cawl i Bawb: Drwy ymdrechion cydweithredol y Bartneriaeth Fwyd, mae cymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol ym Mlaenau Gwent yn cael eu pennu i gymryd rhan mewn gweithgareddau wedi eu targedu. Aeth prosiect Pentref Tyleri, er enghraifft, i’r afael â’r ffaith bod llai a llai o wasanaethau ar gael yn y pentref drwy lansio prosiect Cawl i Bawb. Mae’r fenter hon yn darparu cawl ‘5-y-dydd’ llawn llysiau i unrhyw un yn y gymuned, yn eu caffi neu drwy gludo’r bwyd gan ddefnyddio Beic E-Cargo.
  6. Partneriaeth Fwyd wedi ei chynnal gan Gymdeithas Tai Calon: Mae hyn wedi golygu bod ystadau a oedd fel arall yn ynysig ym Mlaenau Gwent yn gallu cael gafael ar fwydydd. Mae’r Bartneriaeth Fwyd wedi ymgysylltu â demograffeg allweddol tenantiaid tai cymdeithasol drwy fynychu digwyddiadau cymunedol, darparu cyrsiau ar gyfer coginio bwydydd rhad a phrofiadau i blant gael blasu gwahanol fwydydd. Mae hefyd wedi eu galluogi i siarad â thenantiaid a gafodd eu hatgyfeirio at Ymddiriedolaeth Trussell a gweld profiad llawr gwlad mewn perthynas ag urddas a mynediad at fwyd i denantiaid.

Mae’r mentrau hyn yn dangos yr effaith gadarnhaol y mae gwaith y bartneriaeth yn ei chael, ynghyd â’r cyllid cysylltiedig, o ran mynd i’r afael â heriau’n ymwneud â mynediad at fwyd iach, cynaliadwy a maethlon.

“Rydym oll yn teimlo effaith y cynnydd mewn costau byw, ac i lawer mae hyn wedi dod yn argyfwng costau byw. Mae gorfod dewis rhwng gwresogi neu fwyta yn realiti dyddiol i lawer o bobl. Drwy ymdrechion cydgysylltiedig Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Blaenau Gwent, caiff unigolion a sefydliadau eu cefnogi i gael gafael ar fwyd da sy’n iach ac yn gynaliadwy. Mae’r bartneriaeth yn helpu i ddatblygu cymunedau cryf a gwydn drwy ddatblygu prosiectau tyfu cymunedol, hyrwyddo grwpiau cymunedol sy’n gwneud eu rhan i atal bwyd da rhag mynd yn wastraff a thrwy gefnogi gwerthwyr annibynnol lleol.”  Tanya Evans, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cyflwyno Rhaglen Gwydnwch Bwyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

Gan adeiladu ar lwyddiant y cydweithio rhanbarthol drwy’r rhaglen Food4Growth, bydd Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent bellach yn cael cymorth a chapasiti ychwanegol drwy raglen gwydnwch bwyd Gwent, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Nod y rhaglen hon yw hyrwyddo amcanion y bartneriaeth, gan gynnwys datblygu a rhoi ar waith gynllun gweithredu bwyd lleol, trefniadau cydweithio gwell â busnesau a chynhyrchwyr bwyd lleol, a chryfhau partneriaethau caffael ac addysg yn y sector cyhoeddus.

 “Mae Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent yn gyfrwng allweddol i gymryd camau lleol ar fyrder i gefnogi pobl sy’n wynebu tlodi mawr ac anghydraddoldeb bwyd sylweddol. Mae Tai Calon yn cynllunio ar gyfer y gaeaf pryderus sydd o’n blaenau yn sgil yr argyfwng costau byw, a gwelwyd galw aruthrol am ein cymorth a’n cefnogaeth mewn cymunedau lleol. Mae mentrau sy’n cael eu harwain gan y Bartneriaeth, fel Canolfan Gymunedol Sirhywi yn coginio gyda chynnyrch lleol a phrosiect Cawl i Bawb Pentref Tyleri, yn gwneud bwyd iach a rhad yn hygyrch i’n tenantiaid. Mae dull cydgysylltiedig unigryw ein Partneriaeth Fwyd drwy gydweithio ac ymgysylltu â’r gymuned yn galluogi pobl leol i wella eu hiechyd, eu sgiliau a’u hunanhyder.”  Howard Toplis, Prif Weithredwr, Tai Calon

Am fwy o wybodaeth am waith Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent, cysylltwch â Chris Nottingham, Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Blaenau Gwent – Chris.Nottingham@taicalon.org