Astudiaeth Achos: Blas am lwyddiant yn Sir Gaerfyrddin

Bwyd Sir Gâr Food yw partneriaeth fwyd leol Sir Gaerfyrddin, ac mae’n cael ei harwain gan weledigaeth lle bydd system fwyd ffyniannus, gynaliadwy, gynhwysol a gwydn yn cael ei chynnal ar draws y sir. Mae’r bartneriaeth yn dod â phartneriaid ynghyd o ystod o sectorau gwahanol i fynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, gan ymdrechu i sicrhau bwyd da i bawb. Mae’r partneriaid allweddol yn Sir Gaerfyrddin yn cynnwys:

  • Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin
  • Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
  • Rhwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin
  • Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol
  • Synnwyr Bwyd Cymru
  • Castell Howell

Mae Bwyd Sir Gâr Food yn aelod o’r rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, ac mae gweithgareddau’r bartneriaeth fwyd yn cael eu goruchwylio gan y cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy a’u cefnogi gan bwyllgor llywio gweithgar sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r partneriaid allweddol.

Dechreuodd taith Bwyd Sir Gâr Food yn ôl ym mis Chwefror 2021 pan gafodd Rhwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin ei sefydlu gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin wrth i’r Gymdeithas ymateb i bryderon ynghylch mynediad at fwyd ac er mwyn cydgysylltu’r ddarpariaeth bwyd ar fyrder yn ystod pandemig Covid-19.

Ffurfiwyd grŵp llywio cydweithredol, gan ddod â chynrychiolwyr ynghyd o’r awdurdod lleol, y bwrdd iechyd, tyfwyr cymunedol, cogyddion lleol ac actifyddion bwyd da, darparwyr bwyd brys a sefydliadau cymorth ehangach ar gyfer y sawl sy’n wynebu ansicrwydd bwyd. Llwyddodd y grŵp i sicrhau cyllid drwy Gronfa Lliniaru Tlodi Cymru, gan olygu y gellid penodi cydlynydd Rhwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin am gyfnod o 8 mis. Yn ystod y cyfnod hwn, sefydlwyd pum grŵp clwstwr gyda’r nod o ‘gysylltu, cefnogi a rhannu’ er mwyn meithrin system fwyd ar lawr gwlad sy’n fwy cydgysylltiedig, a hynny wedi ei ysbrydoli gan y fframwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy. Gwnaed gwaith mapio helaeth o system fwyd y sir, gan helpu i arwain at ffurfio endid strategol, sef Bwyd Sir Gâr Food sy’n awyddus i ymuno â’r rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy.

Ym mis Mehefin 2022, cafodd Bwyd Sir Gâr Food ddod yn aelod o’r rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy gyda chymorth gan Synnwyr Bwyd Cymru. O ganlyniad i arian grant gan y rhwydwaith, penodwyd Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ar gyfer Sir Gaerfyrddin, dan lywyddiaeth un o aelodau’r grŵp llywio, Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol.

“Drwy ddod â rhanddeiliaid ynghyd drwy Bartneriaeth Bwyd Sir Gâr Food, gallwn fabwysiadu dull system-gyfan wrth inni fynd i’r afael â rhai o’r heriau y mae trigolion a chymunedau Sir Gaerfyrddin yn eu hwynebu. Yn yr hinsawdd economaidd ac amgylcheddol sydd ohoni, mae angen inni fanteisio ar gyfleoedd allweddol i oresgyn y gwendidau yn ein system fwyd leol mewn sir wledig sy’n cynhyrchu bwyd yn bennaf. Mae Partneriaeth Bwyd Sir Gâr Food a Rhwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin fel partner gwerthfawr yn cydweithio er budd cymunedau ar draws Sir Gaerfyrddin.Y Cynghorydd Ann Davies, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio, Cyngor Sir Gaerfyrddin

Wrth i Rwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin barhau i feithrin mentrau ar lawr gwlad, fe wnaeth Bwyd Sir Gâr Food ehangu ei gyfranogiad fel ei fod yn cwmpasu prosiectau systemau bwyd ehangach. Roedd hyn yn cynnwys rhaglen beilot, a ariannwyd gan y Rhaglen Datblygu Gwledig fel rhan o’r prosiect Mannau Gwyrdd Gwydn. Roedd y rhaglen beilot yn archwilio trefniadau caffael cyhoeddus lleol a chynaliadwy ynghyd â datblygu sector garddwriaeth gwydn a chynaliadwy trwy fodel hwb bwyd. Yn ogystal, er mwyn llunio dull strategol cydlynol o ymdrin â bwyd ar lefel y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, penodwyd Swyddog Datblygu Bwyd i rôl amser llawn, a ariannwyd yn gychwynnol gan y Rhaglen Datblygu Gwledig a’i ymestyn wedyn drwy gyllid craidd gan y cyngor ar gyfer chwe mis pellach. Sefydlwyd y rôl hon o fewn tîm Polisi a Phartneriaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin. Yn dyst i effaith y bartneriaeth fwyd, mae’r Cynllun Llesiant lleol ar gyfer 2023-28 bellach yn cynnwys amcan i ddatblygu strategaeth fwyd ar gyfer y sir gyfan, sydd wedi’i drafftio ac yr ymgynghorwyd arni, ac sydd ar y trywydd iawn i gael ei mabwysiadu gan aelodau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin yn hwyr yn 2023 neu ddechrau 2024.

Yn dilyn ymgynghoriadau â Rhwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin, trigolion lleol a busnesau, fe wnaeth y Swyddog Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, ar y cyd â’r bartneriaeth strategol, ddatblygu cynllun ar gyfer prosiect ar lefel gymunedol i feithrin mynediad teg at fwyd maethlon da, a hynny drwy gymuned dyfu, coginio, a rhannu prydau bwyd. Mae’r fenter hon hefyd yn ceisio rhoi cymorth gwerthfawr i unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau bwyd brys. Cafodd cyllid ar gyfer y prosiect hwn ei sicrhau yn llwyddiannus trwy Grant Datblygu Partneriaeth Bwyd Lleol y Weinyddiaeth Cyfiawnder Cymdeithasol (Ebrill 23-24), ac ers hynny mae Swyddog Rhwydwaith Bwyd newydd Sir Gaerfyrddin wedi’i benodi i ddatblygu a goruchwylio gweithrediad y prosiect.

O ganlyniad uniongyrchol i’r cynnydd ac effaith y gweithgareddau hyn yn Sir Gaerfyrddin, yn ogystal ag ymrwymiad yr awdurdod lleol ac aelodau eraill o grŵp llywio Bwyd Sir Gâr Food, fe wnaeth y bartneriaeth fwyd sicrhau cyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar gyfer Prosiect Datblygu System Fwyd. Gan adeiladu ar y gwaith presennol, mae’r cyllid hwn yn galluogi’r bartneriaeth i gyflogi pedwar aelod o staff ychwanegol rhwng mis Hydref 2023 a mis Rhagfyr 2024, gan gynnwys Rheolwr Prosiect amser llawn, Gweinyddwr Prosiect (cyfwerth â 0.8 rôl amser llawn), prif dyfwr amser llawn, a thyfwr cynorthwyol amser llawn. Mae hefyd yn helpu wrth barhau i gyflogi Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy a Swyddog Rhwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin tan fis Rhagfyr 2024.

“Mae Partneriaeth Bwyd Sir Gâr Food wedi chwarae rhan bwysig wrth gefnogi Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin i ddatblygu strategaeth fwyd leol ar gyfer Sir Gaerfyrddin, gan ddarparu cyswllt hanfodol rhwng y rhanddeiliaid strategol a sefydliadau ar lawr gwlad sy’n gweithredu yn y system fwyd leol. Mae ymgysylltu a chydgynhyrchu yn galluogi’r Strategaeth Fwyd Leol i fod yn seiliedig ar ddata, ar dystiolaeth ac wedi ei harwain gan bobl wrth inni gyflawni ein Cynllun Llesiant.”  Y Cynghorydd Darren Price, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin ac Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin.

Am wybodaeth bellach ynglyn â phartneriaeth Bwyd Sir Gâr Food, cysylltwch ag Augusta Lewis, Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynalidawy Sir Gaerfyrddin – augusta@farmgarden.org.uk