Dathlu Partneriaethau Bwyd Lleol yng Nghynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog sy’n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi cadarnhau bod Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i ddarparu £2 filiwn o gyllid ar gyfer Partneriaethau Bwyd Lleol yn 2025-26.

Gwnaed y cyhoeddiad heddiw [18 Tachwedd] yng nghynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru a gynhelir ym Mhen-y-bont ar Ogwr – cynhadledd annibynnol ar fwyd a ffermio cynaliadwy

Bydd cymunedau ledled Cymru yn elwa o rwydweithiau bwyd lleol cryfach gan fod gan bob awdurdod lleol bellach bartneriaeth weithredol sy’n cefnogi cynhyrchwyr lleol, mynd i’r afael â thlodi bwyd a hyrwyddo dewis bwyd iachach.

Mae Partneriaethau Bwyd Lleol yn dod â ffermwyr, sefydliadau cymunedol, cyrff cyhoeddus a busnesau ynghyd i adeiladu systemau bwyd gwydn. Mae’r cyllid yn galluogi partneriaethau i ddatblygu seilwaith, creu cyfleoedd cyflenwi lleol newydd a chefnogi tyfwyr sy’n dechrau busnes garddwriaeth.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy’n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:

Mae cyfleoedd ar gael i annog cyflenwad bwyd lleol trwy greu cysylltiadau rhwng cynhyrchwyr lleol, busnesau bwyd a diod a’r rhwydwaith o fentrau bwyd cymunedol.

Gellir defnyddio cysylltiadau bwyd gwell o fewn cymunedau i annog dewisiadau bwyd iachach, i fynd i’r afael â thlodi bwyd ac i gefnogi cynhwysiant cymdeithasol. Yn bwysig hefyd, gall annog dulliau cynhyrchu amgylcheddol gyfrifol, trwy dyfu cymunedol a garddwriaeth, gynnig buddion i’n hamgylchedd naturiol.

Mae hyn i gyd yn cyd-fynd â’n huchelgais i gysylltu cymunedau, ysgogi cynnydd ar gyfer Cymru iachach, creu swyddi a thwf gwyrdd, a chynnig cyfle i bob teulu.

Rwy’n falch iawn o weld y cyfleoedd cyffrous sy’n cael eu creu drwy’r Cyllid Partneriaethau Bwyd Lleol – sy’n dod â phobl at ei gilydd i ystyried ffyrdd o sbarduno bwyd a ffermio cynaliadwy yng Nghymru.

Hyd yn hyn, dyfarnwyd grantiau o hyd at £22,500 i 22 o brosiectau ar raddfa fach i ddarparu arferion arloesol mewn ardaloedd awdurdodau lleol ledled Cymru.  Dyma enghreifftiau:

  • Bwyd Powys yn treialu cynllun ar gyfer blychau llysiau â chymhorthdal, dosbarthiadau coginio a phrydau a rennir mewn lleoliadau Dechrau’n Deg, gan weithio gyda’r Cyngor, y Byd Iechyd a thyfwyr lleol
  • Bwyd Ceredigion yn mapio’r ddarpariaeth garddwriaeth fwytadwy bresennol a phosibl, gan gyd-gynhyrchu cynllun gweithredu arallgyfeirio garddwriaethol gyda ffermwyr
  • Partneriaeth Bwyd Conwy yn datblygu ymgyrch ymgysylltu wedi’i thargedu i ymgorffori lleisiau cymunedol yn y bartneriaeth fwyd

Mae Synnwyr Bwyd Cymru, cangen gyflenwi Lleoedd Bwyd Cynaliadwy i Gymru, wedi bod yn goruchwylio’r broses hon drwy rôl gefnogol ganolog i’r Cydlynwyr Bwyd Lleol, sy’n cynnwys cymorth un i un a chymorth gan gymheiriaid; gan annog y datblygiad.

Dywedodd Pearl Costello, Rheolwr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn Synnwyr Bwyd Cymru:

Mae’n wych gweld rhwydwaith Cymru o Bartneriaethau Bwyd Lleol yn ffynnu ac yn creu effaith wirioneddol, gadarnhaol yn eu cymunedau.  Mae hefyd yn galonogol iawn gweld ystod amrywiol o brosiectau yn cael eu cefnogi.

Bydd y grantiau hyn yn helpu cymunedau ledled Cymru i ymateb i anghenion eu hardaloedd wrth iddynt weithio i greu systemau bwyd lleol iachach, mwy gwydn a chynaliadwy.

Mae rhestr o’r holl grantiau a ddyfarnwyd hefyd ar gael ar dudalen Adnoddau Synnwyr Bwyd Cymru Synnwyr Bwyd.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol gan Lywodraeth Cymru, ddydd Mawrth, Tachwedd 18fed 2025