Dyfarnu Grantiau i Bartneriaethau Bwyd Lleol drwy Strategaeth Bwyd Cymunedol Llywodraeth Cymru

Mae bob un o’r 22 o Bartneriaethau Bwyd Lleol yng Nghymru wedi derbyn cyllid drwy Strategaeth Bwyd Cymunedol Llywodraeth Cymru, er mwyn eu galluogi i ddarparu amrywiaeth o brosiectau bwyd wedi’u teilwra sy’n ymateb yn uniongyrchol i anghenion eu cymunedau.   

Bydd cyllid y prosiect hwn yn cefnogi Partneriaethau Bwyd Lleol i feithrin capasiti, datblygu prosiectau bwyd wedi’u targedu a chydweithio i fynd i’r afael â heriau’n ymwneud â seilwaith. Mae hefyd yn atgyfnerthu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi pob un o’r 22 o Bartneriaethau Bwyd Lleol tan fis Mawrth 2028, gan helpu i gryfhau rhwydweithiau lleol a datblygu atebion wedi’u harwain gan gymunedau. 

Mae’r cynllun cyllido yn rhan o’r Strategaeth Bwyd Cymunedol ac fe’i datblygwyd gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, a’u timau. Roedd y cynllun cyllido ar agor i bob Partneriaeth Bwyd Lleol ym mhob Ardal Awdurdod Lleol yng Nghymru ac mae’n llunio rhan o Strategaeth Bwyd Cymunedol Llywodraeth Cymru. Fel rhan o’r cynllun hwn, mae’r gweinidogaethau wedi cydweithio i ddatblygu cyfres o amcanion a dangosyddion ar y cyd sy’n dwyn ynghyd yr uchelgeisiau ar gyfer y naill bortffolio a’r llall,  gan gynnwys creu gwydnwch bwyd cymunedol a mynd i’r afael â thlodi bwyd a chynyddu’r cyflenwad o fwyd lleol a’i amrywiaeth.  

Hyd yn hyn, mae 22 o brosiectau bach wedi derbyn grantiau o hyd at £22,500 i ddarparu arferion arloesol mewn ardaloedd awdurdodau lleol ledled Cymru. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys: 

  • Bwyd Powys yn cynnal cynllun peilot ar gyfer bocsys llysiau â chymhorthdal, dosbarthiadau coginio a phrydau a rennir mewn lleoliadau Dechrau’n Deg, gan weithio gyda’r Cyngor, y Bwrdd Iechyd a thyfwyr lleol.   
  • Bwyd Ceredigion yn mapio’r ddarpariaeth cynnyrch garddwriaeth bwytadwy bresennol a phosibl, gan gyd-gynhyrchu cynllun gweithredu arallgyfeirio garddwriaethol gyda ffermwyr.   
  • Partneriaeth Bwyd Conwy yn datblygu ymgyrch ymgysylltu wedi’i thargedu i gynnwys lleisiau cymunedol yn y bartneriaeth fwyd.   

Yn ogystal â hynny, mae dau brosiect mwy ar y cyd wedi derbyn cyllid o hyd at £240,000 gydag amryw o Bartneriaethau Bwyd Lleol yn cydweithio i gyflawni blaenoriaethau rhanbarthol a nodwyd eisoes. Yng Ngogledd Cymru, mae prosiect ar y gweill i greu cadwyn gyflenwi gydgysylltiedig, gadarn, ranbarthol ar gyfer llysiau lleol ffres ac wedi’u rhewi i’w defnyddio ledled Ynys Môn, Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych, drwy sectorau arlwyo ysgolion, gofal a lletygarwch awdurdodau lleol ar draws pob un o’r pedwar awdurdod lleol. Yn y Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae’r pedair partneriaeth fwyd yn dod ynghyd i ddatblygu strategaeth gwydnwch bwyd arloesol ar gyfer ardal Dyfed Powys yn ogystal â darparu gweithgaredd i ddechrau mynd i’r afael â’r her hon ar lawr gwlad.   

Yn 2022, drwy gyllid Llywodraeth Cymru, sefydlwyd Partneriaethau Bwyd Lleol ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Drwy ddarparu arweinyddiaeth a chydgysylltiad cyffredinol, mae Partneriaethau Bwyd Lleol yn denu mentrau bwyd lleol i fod yn rhan o rwydwaith cefnogol. Mae’r rhwydweithiau hyn yn gwneud cysylltiadau cynhyrchiol rhwng rhanddeiliaid bwyd lleol, gan gynnwys cyrff cyhoeddus, ffermwyr, y byd academaidd a sefydliadau cymunedol. Maent hefyd yn hwyluso cydweithio ar flaenoriaethau a chamau gweithredu ar gyfer yr ardal leol. 

Bu Synnwyr Bwyd Cymru, cangen gyflawni Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru, yn goruchwylio’r broses hon drwy rôl gefnogi ganolog ar gyfer y Cydlynwyr Bwyd Lleol, sy’n cynnwys cymorth un i un a chan gyfoedion, sy’n annog y datblygiad. 

“Mae’n wych gweld rhwydwaith Partneriaethau Bwyd Lleol Cymru yn ffynnu ac yn cael effaith wirioneddol a chadarnhaol ar eu cymunedau. Mae hefyd yn galonogol iawn gweld amrywiaeth fawr o brosiectau yn cael eu cefnogi”, meddai Pearl Costello, Rheolwr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn Synnwyr Bwyd Cymru. “Bydd y grantiau hyn yn helpu cymunedau ledled Cymru i ymateb i anghenion eu hardaloedd wrth iddynt weithio i greu systemau bwyd lleol iachach, mwy gwydn a chynaliadwy.“   

Cyhoeddwyd y Strategaeth Bwyd Cymunedol ym mis Ebrill 2025 ac ynddi roedd gweledigaeth i weithio mewn partneriaeth i hyrwyddo a chryfhau’r system bwyd lleol a chymunedol yng Nghymru; cynyddu’r bwyd iachach a chynaliadwy o ffynonellau lleol sydd ar gael ac yn cael ei fwyta; ac ysbrydoli gwelliannau i lesiant yn ein cymunedau. 

Mae rhestr o’r holl grantiau a ddyfarnwyd ar gael yma.  
Gallwch hefyd ddod o hyd i’r Partneriaeth Bwyl Lleol yma.
A gallwch ddysgu mwy am ein Partneriaethau Bwyd Lleol drwy wylio’r fideo hwn neu drwy ddarllen mwy yma.