Synnwyr Bwyd Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru 2025

Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn edrych ‘mlaen at fod yn rhan o’r Pentref Garddwriaeth yn Sioe Frenhinol Cymru unwaith eto eleni.

Dewch draw i ardal Synnwyr Bwyd Cymru, lle bydd y tîm yn dathlu prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion ac yn arddangos gwaith ysbrydoledig Partneriaethau Bwyd Lleol ledled Cymru. Bydd hefyd gennym ddwy ardd fach arddangos, wedi’u plannu gydag ystod o lysiau sy’n cael eu tyfu ar gyfer ysgolion.

Cynhelir arddangosfeydd coginio Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion bob dydd yn y Dysgubor, gan ddefnyddio llysiau organig tymhorol a lleol, a bydd y dydd Mawrth yn llawn digwyddiadau Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, gan gynnwys sesiwn yn canolbwyntio ar ffermwyr a digwyddiad gyda rheolwyr arlwyo Cymru.

Bydd cydlynwyr o Bartneriaethau Bwyd Lleol Cymru hefyd yn bresennol drwy gydol y sioe, yn barod i sgwrsio am sut maen nhw’n helpu i drawsnewid eu systemau bwyd lleol.

Sesiynau Dysgubor

O’r Plot i’r Plât – Dathlu Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion

  • Dydd Llun a Dydd Mawrth am 3pm: Ymunwch â’r cogydd Nerys Howell am arddangodfa goginio byw gan ddefnyddio llysiau lleol, organig a thymhorol. Bydd y sesiwn yn cynnwys sgyrsiau gyda thyfwyr, addysgwyr, a phartneriaid sy’n rhan o’r prosiect.
  • Dydd Mercher am 2pm a Dydd Iau am 3pm: Bydd Stewart Williams, Cogydd Datblygu Castell Howell, yn cymryd y llwyfan ar gyfer sesiwn ryngweithiol debyg, gan goginio gan ddefnyddio llysiau lleol, organig, a thymhorol.

Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion – Tyfu Cysylltiadau

  • Dydd Mawrth am 11am: Dan ofal Castell Howell, bydd y sesiwn hon yn archwilio cynnydd a photensial menter Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, gan gynnwys diweddariadau gan dîm y prosiect a straeon ysbrydoledig gan bartneriaid allweddol.

Mae Synnwyr Bwyd Cymru hefyd yn falch o gynnal digwyddiad arbennig yn Nhŵr Brycheiniog brynhawn dydd Mawrth.

  • Partneriaethau Bwyd Lleol – Tyfu Mudiad Bwyd Da yng Nghymru

Dydd Mawrth am 2.30pm: Ers 2022, mae Partneriaethau Bwyd Lleol wedi ehangu i gwmpasu pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru ac wed’u cydnabod yn Strategaeth Bwyd Cymunedol Llywodraeth Cymru.

Ymunwch â Synnwyr Bwyd Cymru a chydlynwyr ac aelodau Partneriaethau Bwyd Lleol, i ddarganfod mwy am y mudiad cyffrous hwn.

Os ydych chi’n ymweld â Sioe Frenhinol Cymru, cofiwch ymweld ag ardal Synnwyr Bwyd Cymru o fewn y Pentref Garddwriaeth i gael dysgu mwy am ein gwaith.