Mynd i'r cynnwys

Nerth Llysiau

Prif nod Nerth Llysiau yw cynyddu faint o lysiau sy’n cael eu bwyta gan blant ar draws y DU – menter a sefydlwyd yn 2018 ar ôl datblygu o waith Pys Plîs. Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn gweithio’n agos gyda Nerth Llysiau i gefnogi ei weithgareddau yng Nghymru.

Mae 80% o’n plant yn y DU heb fod yn bwyta digon o lysiau, gyda thraean yn bwyta llai nag un dogn y dydd. Mae Nerth Llysiau yn gweithio mewn partneriaeth glòs â rhaglen Pys Plîs a’i nod yw defnyddio hysbysebu a marchnata i gynyddu’r galw gan ddefnyddwyr am lysiau a’r gwerth canfyddedig a roddant arnynt.

Yn 2018, ffurfiodd Nerth Llysiau bartneriaeth allweddol gydag ITV gan greu gyda’i gilydd yr ymgyrch Bwytewch y Llysiau i’w Llethu, a gyflwynwyd gyntaf yn 2019, gan wneud llysiau’n hwyl i blant. Yn 2020 ymunodd Channel 4 & Sky ag ITV a Nerth Llysiau ar gyfer ail ymgyrch hysbysebu fwy a lansiad rhaglen ysgolion yr ymgyrch. Eleni, llwyddodd yr ymgyrch i gyrraedd cynulleidfa mwy eang fyth gan ddarparu ei rhaglen ysgolion fwyaf hyd yma ar gyfer 470,000 o blant ar draws y DU.

Ewch i’r wefan
Cyswllt
Lawrlwythwch Adroddiad Ysgolion Cymru 2021: Bwytewch y Llysiau i’w Llethu

Yn ystod pob un o ymgyrchoedd Bwytewch y Llysiau i’w Llethu hyd yma, mae Synnwyr Bwyd Cymru wedi cynorthwyo i hwyluso cefnogaeth sylweddol gan Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ynghyd â nifer o Awdurdodau Lleol er mwyn cyflwyno gweithgareddau ar draws Cymru.  Gyda chefnogaeth hael Castell Howell – yn ystod ymgyrchoedd 2019, 2020 a 2021 – dosbarthwyd adnoddau dwyieithog i ysgolion cynradd ar draws Cymru.  Yn 2021, cafodd yr ymgrych ei weithredu yn 165 o ysgolion ar draws 16 o awdurdodau lleol yn cyrraedd 29,878 o ddisgyblion.

Nododd Adroddiad Ysgol 2020 fod 66% o blant yng Nghymru yn cytuno bod yr ymgyrch yn gwneud i fwyta llysiau ymddangos yn fwy o hwyl a bod 57% o blant yn cytuno eu bod wedi bwyta mwy o lysiau nag arfer gartref yn yr wythnosau yn dilyn y gweithgareddau – gyda’r ymatebwyr yng Nghymru yn fwy cadarnhaol na chyfartaledd y DU.  Yn ystod ein harolwg rhieni yn 2021 yn yr ysgolion o Gymru a gymerodd ran, nododd 42% bod eu plentyn wedi dysgu geirfa newydd Cymraeg o ganlyniad i’r ymgyrch (i fyny o 16% yn 2020).