Mynd i'r cynnwys

Cynghrair Systemau Bwyd Ymwybodol (CoFSA) rhan o Raglen Datblygu’r Cenhedloedd Unedig (UNDP)

Mae Cynghrair Systemau Bwyd Ymwybodol (CoFSA) yn fudiad bwyd, amaethyddiaeth ac ymarferwyr ymwybodol, a gynlluniwyd gan Raglen Datblygu’r Cenhedloedd Unedig (UNDP) sydd â nod cyffredin: cefnogi pobl ar draws systemau bwyd ac amaethyddiaeth i feithrin eu gallu mewnol er mwyn ysgogi newid yn y systematig a’i hadfywio.

Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn falch o fod an aelod o’r mudiad hwn ac yn hynod bles bod Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru wedi’i hethol yn aelod o Gyngor Mewnol CoFSA, grŵp sy’n cael ei gadeirio gan Andrew Bovarnick, Pennaeth Systemau Bwyd a Nwyddau Amaethyddol Byd-eang UNDP. Y grŵp hwn sydd yn diffinio ac yn llywio’r broses o weithredu strategaeth CoFSA yn ogystal â bod yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ar brif agweddau’r Gynghrair. Mae Katie yn un o ddim ond 12 o ymarferwyr systemau bwyd ar draws y byd sydd ar y Cyngor Mewnol a bydd ei phresenoldeb yn helpu i greu trawsnewidiad positif yng Nghymru ac yn fyd-eang.

Wedi hefyd cyfrannu at ddatblygiad Maniffesto CoFSA, mae Katie bellach yn gweithio gyda Rheolwr Newid mewn Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru i ddatblygu cymuned sy’n cefnogi’r rhwydwaith cynyddol o bartneriaethau bwyd yng Nghymru.  Rhan o’r cynnig fydd hyfforddi i greu galluoedd mewnol sy’n gysylltiedig â ffyrdd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o weithio a thrwy ddefnyddio’r dulliau hyn gyda chydweithwyr o Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â meysydd o wrthdaro a cheisio dod o hyd i ffyrdd o’u datrys.

Gwyliwch y fideo isod i ddysgu mwy neu gliciwch yma i ymweld â’r wefan.