Mynd i'r cynnwys

Datblygu Gwydnwch Bwyd Sifil ledled Dyfed‑Powys

Mae’r Prosiect Gwydnwch Bwyd Sifil yn brosiect cydweithredol arloesol sy’n uno’r pedair Partneriaeth Bwyd Lleol sy’n gweithredu yn ardal Dyfed-Powys – Bwyd Powys, Bwyd Sir Gâr, Bwyd Ceredigion a Phartneriaeth Bwyd Lleol Sir Benfro. Yn un o ddwy fenter fawr yng Nghymru sy’n cael eu hariannu drwy Strategaeth Bwyd Cymunedol Llywodraeth Cymru, nod y prosiect hwn yw datblygu strategaeth gwydnwch bwyd rhanbarthol a chymryd camau ymarferol i gefnogi cymunedau drwy bwysau arferol o ddydd i ddydd a digwyddiadau annisgwyl mawr.

Mae’r gwaith, sy’n cael ei arwain gan Bywd Powys, yn cynnwys Labordy Arloesi i gyd greu datrysiadau, ymchwilio i wendidau, mapio seilwaith hanfodol, buddsoddi mewn cyfleusterau cyffredin ac Uwchgynhadledd Diogeledd Bwyd ranbarthol lle bydd canfyddiadau’n cael eu rhannu ymhlith y rhanddeiliaid.

Diffinio gwydnwch bwyd

O’r cychwyn cyntaf, roedd tîm y prosiect yn cydnabod yr angen am ddealltwriaeth gyffredin o wydnwch bwyd. Fel yr eglura Chloe Masefield o Bwyd Powys: “Dyma un o’r pethau cyntaf y bu’n rhaid i’r prosiect geisio’i ddiffinio, oherwydd mae cymaint o wahanol ffyrdd o’i ddeall – ac i ni – rydym yn defnyddio’r diffiniad lle mae gan bawb fynediad at fwyd ni waeth beth yw’r amodau.”

Fodd bynnag, dim ond yr her gyntaf oedd diffinio’r cysyniad. Profodd y broses o gasglu’r data yr oedd eu hangen i asesu gwydnwch yn anoddach. Fel y dywedodd Chloe, “Un o’r prif broblemau rydym yn eu hwynebu yw diffyg gwybodaeth. Rydym wedi comisiynu Miller Research i weithio ar hyn, ond mae’n anodd iawn canfod data sylfaenol. Mae penderfynu ar y lefel o wydnwch sydd gennym yn awr a sut y gallai hynny ymateb i ddigwyddiadau annisgwyl gwahanol yn heriol iawn.”

Cydweithredu ar draws y rhanbarth

Un o brif gryfderau’r prosiect yw’r model cydweithredol ar draws y pedair sir yn ardal Fforwm Gwydnwch Lleol Dyfed-Powys. Mae Augusta Lewis o Bwyd Sir Gâr yn disgrifio’r bartneriaeth fel un sy’n torri tir newydd. “Mae hyn yn gydweithrediad gwirioneddol gyffrous rhwng y pedair sir. Rydym o’r farn ei fod yn brosiect arloesol iawn lle y gallwn edrych ar gysylltedd ar draws y siroedd er mwyn creu gwydnwch bwyd sifil.”

Aeth Augusta ymlaen i dynnu sylw at y nodweddion gwledig cyffredin a’r angen am ymatebolrwydd lleol. “Mae Dyfed Powys yn cynnwys siroedd mawr, gwledig i raddau helaeth, felly mae gennym rai nodweddion tebyg ar draws yr ardal… ond hefyd ein safbwyntiau unigryw ein hunain sy’n seiliedig ar le. Fel partneriaethau bwyd sy’n seiliedig ar siroedd, gallwn fod yn ymatebol i’r hyn sy’n digwydd yn lleol yn ogystal â’r cydweithio ehangach a all greu rhywbeth mwy.”

“Rydym hefyd yn ffodus iawn yng Nghymru bod gennym Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sydd wedi creu byrddau gwasanaethau cyhoeddus, sy’n dod â gwasanaethau cyhoeddus ynghyd i gael gwell effaith gyda’i gilydd nag ar wahân, ac i gydweithio,” esboniodd Augusta.  “Yna mae’r partneriaethau bwyd yn ychwanegu gwerth at hynny drwy ddod â dinasyddion ynghyd, a thrwy
gamau gweithredu a gweithgarwch ar lefel y gymuned a hefyd gamau gweithredu a gweithgarwch y sector preifat. Rydym yn dod â ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd; darparwyr logisteg a dosbarthu; byrddau iechyd; cynghorau a chymdeithasau gwasanaethau gwirfoddol ynghyd. Felly rydym yn canolbwyntio ar y dull cyfannol iawn hwnnw a sut y gallwn ddefnyddio bwyd fel
thema drawsbynciol, i wella llesiant a diogelwch busnesau – o’r ffactorau macro fel y posibilrwydd o amharu ar gadwyni cyflenwi bwyd byd-eang oherwydd newidiadau geo-wleidyddol a newidiadau mewn teyrngarwch; i fethiant cnydau oherwydd y newid yn yr hinsawdd; i weithgaredd gwleidyddol fel Brexit, clefydau pandemig a llu o wendidau posibl eraill yn y cadwyni cyflenwi hir hynny; yn ogystal â chyfrifoldeb byd-eang a mynediad teg at fwyd mewn gwledydd eraill sy’n datblygu.”

Heriau gwledig yng Ngheredigion

Mae Ceredigion yn wynebu heriau penodol iawn sy’n gysylltiedig â’i daearyddiaeth anghysbell a’i heconomi fwyd. Mae Ann Owen o Bwyd Ceredigion yn esbonio’r paradocs o fod yn sir amaethyddol, wledig lle mae trigolion yn parhau i gael anhawster i gael gafael ar fwyd ffres. “Mae pobl wledig yn cael anhawster yn aml i gael gafael ar fwyd ffres. Er ei bod yn sir wledig ble ceir llawer o gynnyrch amaethyddol, gwartheg a defaid yw hynny’n bennaf ac ry’n ni’n annog ffermwyr a thyfwyr i arallgyfeirio i arddwriaeth.”

Mae safle Ceredigion ar “ddiwedd y llinell gyflenwi” yn golygu bod gwydnwch yn bryder dybryd. “Pe bai’r lorïau’n dod i stop, pe bai’r trenau’n dod i stop – prinder tanwydd, streiciau, tywydd, clefydau pandemig – ni yw’r cyntaf i deimlo’r effaith. Yn aml, rydym yn gweld silffoedd gwag mewn archfarchnadoedd. Rydym wedi rhoi ein ffydd mewn manwerthwyr mawr, ond nid oes llawer o amrywiaeth o ran y ffordd y mae bwyd yn
cyrraedd pobl.”

I Ann, mae buddiannau eang y prosiect yn amlwg. “Mae pawb ar ei ennill. Wrth fynd i’r afael â diogeledd a gwydnwch bwyd, rydym hefyd yn edrych ar fynediad cyfartal at fwyd iach, cydlyniant cymunedol, adfywio’r economi leol. Mae’n cyflawni sawl amcan strategol ar yr un pryd.”

Parodrwydd yn Sir Benfro

I Sue Latham, o Bartneriaeth Bwyd Lleol Sir Benfro, mae’r prosiect yn cynnig sicrwydd i drigolion. “Rwy’n teimlo’n gyffrous am yr ymchwil. Mae gennym ddata da, cadarn felly rydym yn gwybod gyda beth rydym yn gweithio. Mae’n golygu y gallwn fod yn fwy parod ar gyfer digwyddiadau annisgwyl ac ymyriadau i’r gadwyn gyflenwi yn y dyfodol.”

Wrth bwysleisio pwysigrwydd hyder y cyhoedd, ychwanegodd Sue: “Mae angen sicrwydd a hyder ar drigolion bod gwaith yn cael ei wneud i sicrhau na fydd ymyriadau i’w cyflenwad bwyd – y bydd bwyd bob amser ar gael hyd eithaf ein gallu.”

Ymchwil a Thystiolaeth

Mae Tom Bajjada o Miller Research wedi bod yn arwain elfen ymchwil y prosiect ac mae’n disgrifio’r gwaith hwn fel gwaith sy’n hollbwysig ar gyfer siapio strategaeth gwydnwch yn y dyfodol. “Holl bwynt y gwaith hwn yw llywio strategaeth gwydnwch bwyd ar gyfer rhanbarth Dyfed-Powys. Y maes cyntaf yr ydym wedi bod yn edrych arno yw asesu cyflwr presennol gwydnwch bwyd – ei rannu’n gyflenwad, galw, llywodraethu, cymuned – ac edrych ar yr holl elfennau gwahanol hyn a gofyn pa mor wydn yw Dyfed-Powys ar hyn o bryd i wrthsefyll sioc. Gallai hynny fod yn unrhyw beth o seiber ymosodiadau neu effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.”

“Gwyddom o’r ochr gyflenwi fod gwendidau yn nhermau faint o ffrwythau a llysiau rydym yn eu mewnforio a faint yr ydym yn ei gynhyrchu ac amrywiaeth y cyflenwad. O ran galw, gwyddom fod argaeledd bwyd maethlon yn her. Rwy’n credu y bydd y prosiect ymchwil hwn yn pwysleisio’r heriau allweddol hynny, beth yw’r prif wendidau a beth ddylai’r camau nesaf fod er mwyn mynd
i’r afael â hynny ar bob lefel.”

Er bod y gwaith hwn yn seiliedig ar ardal Dyfed-Powys, mae Tom yn credu y gallai’r canfyddiadau fod yn berthnasol ar lefel genedlaethol. “Wedi hynny, gellir ei fabwysiadu o bosibl mewn
rhanbarthau eraill yng Nghymru. Mae’n astudiaeth eithaf pellgyrhaeddol…. mae cymaint o randdeiliaid gwahanol yn y system fwyd felly mae dod â llawer o safbwyntiau gwahanol at ei gilydd i gymharu nodiadau ac i rannu gwybodaeth yn eithaf anghyffredin. Mae’n bendant yn gyfle i ddatblygu pethau ymhellach o ran model posibl y gellir ei fabwysiadu mewn mannau eraill yng Nghymru.”

Cyd‑ddylunio datrysiadau: Y Labordy Arloesi

Mae gan Labordy Arloesi’r prosiect, sy’n cael ei hwyluso gan Ganolfan y Dechnoleg Amgen, rôl allweddol o ran dod â phobl at ei gilydd. Mae Rachel Tuckett, sy’n arwain y Labordy, yn disgrifio pwysigrwydd gweithio “ar draws ffiniau er mwyn i’r bobl sydd yn y system gyfrannu eu gwybodaeth at y data.”

Gan amlygu ehangder y cyfranogiad, meddai Rachel, “Mae’r bobl sy’n cyfranogi yn dod o bob rhan o’r system fwyd yn ardal Dyfed Powys, ac mae hynny’n golygu pawb o gynhyrchwyr cynradd, tyfwyr – pobl sydd â’u dwylo yn y pridd, pobl sy’n cymryd amser o fywoliaethau anodd i ychwanegu eu llais i’r prosiect hwn – i bobl ym maes logisteg, i bobl sy’n gweithio gyda sgiliau bwyd, addysg bwyd. Mae gennym gynrychiolaeth o Lywodraeth Cymru yma. Mae swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn cymryd rhan. Felly rydym yn ceisio cael darlun cyfannol iawn o’r hyn sy’n digwydd yn y system fwyd mewn un lle, ac rydym yn ceisio gwneud yn siŵr ein bod yn cynnwys lleisiau na fyddent bob amser yn cael eu hystyried mewn cysylltiad â’r sgwrs am fwyd.”

Yn nhermau gwydnwch, mae Rachel yn pwysleisio’r angen i ystyried ystod o wahanol senarios a allai effeithio ar y ffordd rydym yn cael gafael ar fwyd. “Mae angen i ni feddwl beth yw’r risgiau posibl yn y dyfodol. Sut allai hynny ryngweithio a chreu’r hyn rydyn ni’n ei alw yn effaith raeadru. Oes gennym ni gynlluniau wrth gefn? Y rhwydweithiau cymunedol? Y cyfathrebu rhwng gwahanol lefelau yn y system er mwyn gallu ymateb yn effeithiol a pharhau i fwydo pawb yn dda mewn argyfwng?”

Mae’n credu bod y gwaith yn hollbwysig ac yn ddemocrataidd. “Gwerth y gwaith hwn yw’r ffaith bod pobl o bob rhan o’r system yn cymryd rhan, bod eu llais yn cael ei glywed ac maent ac yn cymryd rhan ddemocrataidd weithredol yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.”

Lleisiau o’r Fferm

Mae ffermwyr yn gwbl ganolog i wydnwch bwyd, ac roedd Sophia Morgan, ffermwr llaeth o Geredigion, yn falch o allu rhannu ei phersbectif hi yn y Labordy Arloesi. “I mi, mae gwydnwch bwyd yn golygu gallu parhau i ofalu am y dirwedd a’m hanifeiliaid,” meddai Sophia. “Mae’n golygu parhau i gynhyrchu bwyd ar gyfer y bobl sy’n byw gerllaw, fel rhan o system sy’n gwella yn hytrach na diraddio.”

Gan egluro’r pwysau gwirioneddol y mae ffermwyr yn eu hwynebu, ychwanegodd: “Flwyddyn ar ôl blwyddyn rydym yn cael ein heffeithio gan gyfnodau o sychder. Mae cynaeafu gwair yn dod yn gynyddol anodd. Mae prisiau grawn yn anwadal.”

Mae Sophia yn gwerthfawrogi ymrwymiad y prosiect i gefnogi cynhyrchwyr yn uniongyrchol, gan ychwanegu: “Yr hyn sy’n gyffrous i mi am y prosiect penodol hwn yw bod y bobl rwyf wedi gweithio gyda nhw yn angerddol iawn am drosglwyddo rhywfaint o’r cyfoeth ariannol hwnnw yn uniongyrchol i ffermwyr ac arian i ddwylo’r bobl sy’n cynhyrchu’r bwyd.

Llunio gwydnwch

Ar draws ardal Dyfed-Powys, mae cymunedau, ffermwyr, cyrff cyhoeddus a phartneriaethau bwyd yn dod ynghyd i ymchwilio, trafod a chreu system fwyd gryfach, decach a mwy gwydn. Nid nodi gwendidau yn unig yw bwriad y Prosiect Gwydnwch Bwyd Sifil – mae’n golygu datblygu cydweithrediad, atgyfnerthu cadwyni cyflenwi lleol, grymuso cymunedau a chreu model a allai helpu i siapio gwydnwch bwyd ledled Cymru. Yn anad dim, mae’n amlygu lleisiau’r rhai sy’n tyfu, dosbarthu, paratoi a dibynnu ar fwyd bob dydd, gan sicrhau eu bod yn ganolog i lunio dyfodol y rhanbarth.

Gwyliwch y ffilm sy’n cydfynd gyda’r prosiect isod: