Mynd i'r cynnwys

COGOG: Partneriaeth Bwyd Sir Ddinbych

COGOG: Cefnogi a Chryfhau Camau Gweithredu Bwyd Cymunedol ledled Sir Ddinbych

Partneriaeth fwyd aml-asiantaeth leol Sir Ddinbych yw Cogog ac mae’n gweithio ochr yn ochr â grwpiau cymunedol i leihau gwastraff bwyd, trechu tlodi bwyd, a datblygu mentrau bwyd cynaliadwy ledled y sir. Ers ei lansio ym mis Mawrth 2024, mae’r bartneriaeth – sy’n cael ei chynnal gan Gyngor Sir Ddinbych – wedi cefnogi ei haelodau gyda chanllawiau ymarferol, cydweithredu, a chyllid i helpu i ddarparu prosiectau bwyd wedi’u harwain gan y gymuned.

Datblygu Rhwydwaith Cysylltiedig o Fentrau Bwyd Cymunedol
COGOG yw’r enw a ddefnyddir i ddiffinio’r bartneriaeth bwyd lleol yn Sir Ddinbych. Fel yr esbonia Nikki Jones, cydlynydd COGOG, “Mae COGOG yn dod â’r holl fentrau bwyd cymunedol ar draws Sir Ddinbych at ei gilydd. Mae’r mentrau hynny yn cynnig popeth o ddarpariaeth bwyd mewn argyfwng, banciau bwyd a byrddau bwyd am ddim, i randiroedd, mannau tyfu a chaffis cymunedol.”  Gyda’i gwreiddiau cymunedol cadarn a rhwydwaith sy’n rhychwantu tirwedd eang ac amrywiol Sir Ddinbych, mae’r fenter gydweithredol hon yn helpu i gefnogi a magu hyder a chapasiti ledled y sir.

Y Tŷ Gwyrdd, Dinbych – ‘Mwy na siop’
Un o’r busnesau sy’n cael eu cefnogi gan COGOG yw Y Tŷ Gwyrdd yn Ninbych.  Mae Y Tŷ Gwyrdd yn cynnig gofod cynhwysol a chroesawgar i’r gymuned leol, i ddathlu a hybu’r bobl a’r mentrau ysbrydoledig yn Ninbych a’r dalgylch. Mae’n helpu i leihau effaith y cymunedau ar yr amgylchedd drwy gynnig opsiynau a chyfleoedd dim gwastraff fforddiadwy a hygyrch i hwyluso economi gylchol.

“Mae’n sicr yn fwy na siop,” esbonia Margi Pearce, Rheolwr Y Tŷ Gwyrdd. “Mae wedi datblygu i fod yn lle i bobl ddod i roi’r byd yn ei le, a rhannu sut maen nhw’n teimlo. Rydym yn dathlu
gwaith lleol ac yn cwrdd â phobl anhygoel, – staff, gwirfoddolwyr a chwsmeriaid. Dyna sy’n eich cadw i fynd.”  Aeth Margi ymlaen i ddisgrifio’r effaith o fod yn rhan o’r rhwydwaith a sut mae wedi ei helpu yn ei gwaith. “Drwy COGOG, mae gennym enw cyswllt y gallwn siarad ag ef, i ofyn am gyngor, felly mae wedi bod yn amhrisiadwy o ran hynny. Mae bod yn rhan o COGOG yn
rhoi hyder i chi yn yr hyn rydych chi’n ei wneud. Weithiau gallwch deimlo wedi’ch llethu ac yn ynysig, felly mae cael rhwydwaith ehangach yn gwneud i chi deimlo’n gryfach ac mae
hynny’n hollbwysig er mwyn gwneud i bethau ddigwydd.”

Bellach, mae Margi yn rhan o grŵp llywio COGOG ac mae’n edrych ymlaen at gyfrannu at y gwaith o bennu cyfeiriad strategol y bartneriaeth. “Gofynnwyd i mi eistedd ar y grŵp strategol felly mae hynny’n mynd i fod yn fath gwahanol o fewnbwn, ffordd newydd o gyfranogi, sy’n gyfle cyffrous arall. Mae’n grŵp anhygoel, i gael y math hwnnw o adnodd sy’n cefnogi sefydliadau fel ni, rydym i gyd yn yr un cwch.”

Cefnogi mynediad at fwyd yn Y Rhyl
Mae David Jones, Rheolwr Ymgyrch ym Manc Bwyd Y Rhyl, wedi bod yn gweithio’n agos gyda COGOG i wella mynediad trigolion lleol at ffrwythau a llysiau ffres.  “Rydym wedi’n lleoli yn Y Rhyl, y ward fwyaf difreintiedig yng Nghymru, felly rydym yn gweld llawer o bobl ddigartref yn ogystal â theuluoedd a phensiynwyr. Rydym yn rhedeg y banc bwyd sy’n darparu cymorth mewn argyfwng, ac rydym yn cynnal Clwb Bwyd hefyd.”

Mae David yn mynd ymlaen i ddisgrifio’r gefnogaeth maen nhw wedi’i chael gan COGOG.  “Rydym wedi gweithio gyda’r bartneriaeth fwyd dros y pedair blynedd diwethaf ac mae’n ein helpu ni gyda chynaliadwyedd, ac rydym wedi derbyn grantiau ganddi yn y gorffennol. Mae’r bartneriaeth yn wych i weithio gyda hi….mae hefyd yn ffordd wych o glywed beth mae pawb arall yn ei wneud yn ein hardal ni – mae’n eich cymell ac yn eich ysbrydoli i wneud mwy. Mae hefyd yn gwneud i chi sylweddoli nad ydych chi’n ei wneud ar eich pen eich hun, oherwydd gall eich llethu weithiau. Mae cael partneriaeth â darparwyr a phrosiectau bwyd eraill yn dangos ein bod ni yn y sefyllfa hon gyda’n gilydd, ac mae hynny’n eich cymell i barhau.”

Cysylltiad cymunedol yn Ne Sir Ddinbych
Mae Sally Lloyd-Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych, yn tynnu sylw at sut mae’r rhwydwaith yn cryfhau diwylliant o gydweithio.  “Mae ein gwaith i gyd yn ymwneud â’r gymuned,” meddai Sally, “Rydym yn dod â phobl at ei gilydd ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn gallu defnyddio gwasanaethau yn lleol.  Rydym yn cynnal clwb cinio ar gyfer pobl hŷn, sesiynau i deuluoedd yn ystod gwyliau’r ysgol, pryd ar glud, banc bwyd, pantri ac oergell gymunedol erbyn hyn.”

Ar ôl derbyn cyllid yn ddiweddar gan COGOG i gynnal prosiect coginio, mae Sally yn disgrifio’r effaith y mae COGOG wedi’i chael ar eu gwaith. “Mae rhwydwaith COGOG yn Sir Ddinbych yn werthfawr iawn,” meddai Sally ymhellach. Rydym yn cysylltu, yn rhannu syniadau ac weithiau’n cydweithio. Yn ddiweddar, mae cyllid gan COGOG wedi ein galluogi i gynnal prosiect newydd sy’n cynnig sesiynau coginio i deuluoedd, grwpiau i ddynion yn unig, a phobl sy’n profi heriau iechyd meddwl.”

Mudiad sy’n Tyfu gyda’r gymuned wrth ei galon Mae Nikki Jones yn myfyrio ar dwf a dyfodol y rhwydwaith ac yn disgrifio sut mae gwaith COGOG yn adlewyrchu anghenion cymunedau’r sir.
“Rwy’n falch iawn o’r nifer o fentrau bwyd cymunedol sydd gennym erbyn hyn, ac yn hynod falch o’r gwirfoddolwyr sy’n gweithio yn eu cymunedau. Drwy weithio gyda grwpiau sydd wedi’u lleoli mewn ardaloedd lleol, gallwn ddod yn agosach at drigolion a gweithio ar y dystiolaeth o angen sy’n dod yn uniongyrchol ganddyn nhw.”

Mae Nikki’n mynd ymlaen i ddweud: “Fel rhwydwaith, rydym yn dod at ein gilydd i rannu syniadau. Mae’n golygu darparu mynediad i bawb – bod bwyd maethlon a fforddiadwy ar gael i bawb. Mae gwybod fy mod i’n cynrychioli llais y gymuned, a fy mod wedi ennyn ei hymddiriedaeth a’i pharch, yn golygu mai dim ond adeiladu ar hynny y gallwn ni. Mae’n beth cadarnhaol iawn.”

Gwyliwch y ffilm sy’n cydfynd gyda’r stori isod: