Cychwyn Iach
Beth yw’r cynllun Cychwyn Iach?
Mae’r cynllun Cychwyn Iach ar gael i’r rhai hynny sydd dros 10 wythnos yn feichiog neu sydd â phlentyn o dan 4 oed ac sy’n cael budd-daliadau penodol.
Gall teuluoedd gael cerdyn wedi’i ragdalu, yr ychwanegir credyd iddo bob pedair wythnos, i brynu bwyd iach – ffrwythau, llysiau, codlysiau, llaeth a fformiwla babanod. Gallant hefyd gael fitaminau Cychwyn Iach am ddim.
Gellir defnyddio cardiau Cychwyn Iach mewn siopau sy’n gwerthu bwyd ac sy’n derbyn MasterCard. Gellir defnyddio’r cardiau i brynu:
- llaeth buwch
- ffrwythau a llysiau ffres, wedi’u rhewi neu mewn tuniau
- codlysiau sych neu mewn tuniau
- llaeth fformiwla babanod cyntaf
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Cychwyn Iach.